4 Chwefror 2026
Mae tîm Gwella'r Daith Canser yn ymuno â 5K Your Way i ddathlu pŵer symudiad a chysylltiad i unrhyw un sy’n cael eu heffeithio gan ganser. Boed yn cerdded, loncian, rhedeg, cefnogi neu wirfoddoli, gallwch ymuno a chymryd rhan yn eich ffordd eich hun.
Mae croeso cynnes i bawb ddod draw a chymryd rhan mewn digwyddiad cymunedol arbennig ddydd Sadwrn 7 Chwefror.
Manylion y Digwyddiad
📍 Parkrun y Groe, Llanfair-ym-Muallt
📅 Dydd Sadwrn 7 Chwefror 2026
⏰ Cyfarfod am 8:45yb wrth y faner las
Mae'r digwyddiad arbennig hwn ledled y sir yn dwyn ynghyd dri grŵp 5K Your Way Powys o Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt a'r Drenewydd.
Beth yw 5K Your Way?
Mae 5K Your Way yn fenter gymunedol gan yr elusen MOVE Against Cancer. Mae grwpiau'n cyfarfod ar ddydd Sadwrn olaf pob mis mewn rhai digwyddiadau Parkrun, gan gynnig lle cefnogol i bobl:
Gallwch gymryd rhan ar eich cyflymder eich hun – rhowch gynnig ar 1k, 2k neu 5k, neu dewch draw i gefnogi, sgwrsio neu wirfoddoli .
Ar y Diwrnod
Bydd gennym ni:
🎗️Bathodynnau
🍰Cacennau
ℹ️Gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sydd wedi'i effeithio gan ganser
Bydd llysgenhadon 5K Your Way Powys - gan gynnwys dau aelod o staff Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Jane Spivey a Sue Ling - yno i'ch croesawu.
Fel mae Jane yn ei ddweud:
“Mae’r grwpiau’n lle cefnogol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser ddod at ei gilydd, meithrin cyfeillgarwch, gwella hyder ac elwa o fod yn heini”
Cofrestrwch i Gymryd Rhan
🔗 I ymuno, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Parkrun (am ddim, ac unwaith yn unig)