Neidio i'r prif gynnwy

Ystafell Asesu Cyn Llawdriniaeth Newydd yn Agor yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog

24 Mawrth 2026

Gall cleifion sy'n mynychu Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog ar gyfer llawdriniaeth achosion dydd bellach elwa o ystafell asesu cyn llawdriniaeth bwrpasol sydd newydd agor, wedi'i chynllunio i ddarparu amgylchedd tawel, cyfrinachol gyda’r cyfarpar addas ar gyfer eu hapwyntiad. 

Dywedodd Jessica Williams: “Mae’r ystafell newydd wedi’i chyfarparu’n bwrpasol i sicrhau bod cleifion yn derbyn eu hasesiad mewn lleoliad sy’n cynnig yr offer clinigol cywir, adnoddau priodol, a lle tawel, preifat i’r gwiriadau pwysig hyn ddigwydd. Mae gennym ni ystafell asesu cyn llawdriniaeth yn Llandrindod yn barod, ac rydym wrth ein bodd ein bod ni bellach yn gallu cynnig cyfleusterau tebyg yn Aberhonddu.” 

Beth yw asesiad cyn llawdriniaeth? 

Mae asesiad cyn llawdriniaeth yn rhan hanfodol o'r llwybr llawfeddygol. Mae'n sicrhau bod cleifion wedi'u paratoi'n feddygol ar gyfer eu triniaeth, bod unrhyw risgiau posibl yn cael eu nodi ymlaen llaw, a bod gan y tîm gofal yr holl wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi profiad diogel a llyfn ar ddiwrnod y llawdriniaeth. Gall asesiadau gynnwys holiaduron iechyd, arsylwadau, ymchwiliadau, a chyfle i gleifion ofyn cwestiynau am eu triniaeth sydd ar ddod. 

Mae'r asesiadau hefyd yn ein helpu ni benderfynu a yw cleifion yn bodloni ein trothwyon ar gyfer llawdriniaeth risg isel mewn lleoliad cymunedol, neu a oes angen eu gweld mewn lleoliad arall fel Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. 

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth? 

Ar hyn o bryd mae'r ystafell asesu newydd yn cael ei defnyddio ar gyfer cleifion sydd wedi'u bwcio ar gyfer llawdriniaeth yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog neu Ysbyty Coffa Llandrindod . Mae'r ysbytai hyn yn darparu ystod o weithdrefnau llawdriniaeth ddydd, sy'n canolbwyntio ar y llawdriniaethau hynny sy'n ddiogel ac yn briodol i'w perfformio mewn lleoliad cymunedol gwledig. 

Drwy fuddsoddi yn y gofod pwrpasol hwn, mae tîm yr ysbyty yn anelu at wella cysur, preifatrwydd a hyder cleifion cyn eu llawdriniaeth, gan gefnogi gofal effeithlon o ansawdd uchel i'r boblogaeth leol. 

Ble nesaf? 

Gyda holiadur sgrinio iechyd newydd i Gymru gyfan yn cael ei gyflwyno, mae cynlluniau i ddarparu asesiad cyn llawdriniaeth lleol i gleifion sydd i fod i gael eu llawdriniaeth mewn byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Bydd yr holiadur newydd, wedi'i ategu gan ddatrysiadau digidol, yn lleihau’r angen i gleifion deithio gan y byddant yn gallu gofal cyn llawdriniaeth yn agosach at adref yn hytrach na theithio i'r Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. Yn hirdymor, mae'r tîm hefyd yn edrych ar opsiynau i ddarparu gofal cyn llawdriniaeth i gleifion sydd i fod cael llawdriniaeth yn Lloegr. 

Sut daeth yr ystafell ar gael? 

Mae gweithredu Scan4Safety yn theatrau BIAP wedi ein helpu ni wella ein rheolaeth stoc, gan ryddhau ystafell gyfan a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer storio i ddarparu lle clinig ychwanegol.  

Mae Scan4Safety yn defnyddio technoleg cod bar i olrhain cyflenwadau clinigol: 

  • Gwella diogelwch , gan ei fod yn darparu y gallu i olrhain ar unwaith o ddyfeisiau a chyflenwadau meddygol rhag ofn y bydd claf yn cael ei alw'n ôl 

  • Gwella rheolaeth stoc a lleihau gwastraff, gan y gallwn olrhain argaeledd stoc mewn amser real sydd hefyd yn arbed arian 

  • Gwella bywydau gwaith, gan fod gennym storfeydd glân a thaclus, cynhyrchion wedi'u labelu'n glir, a phrosesau archebu symlach