Croeso i'n gwefan newydd. Gobeithiwn y bydd y dudalen hon yn eich helpu i ddod o hyd i'ch ffordd ar y gwefan.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am ddiwallu anghenion iechyd a lles pobl Powys, canolbarth Cymru. Fel bwrdd iechyd gwledig gyda thua 133,000 o bobl yn byw ar draws ardal sy'n chwarter Cymru, rydym yn darparu cymaint o wasanaethau â phosibl yn lleol. Gwneir hyn yn bennaf trwy feddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol.
Mae natur wledig a gwasgaredig ei phoblogaeth Powys yn golygu nad oes gennym Ysbyty Cyffredinol Dosbarth yn y sir. Yn lle, rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau eraill yng Nghymru a Lloegr i ddarparu gwasanaethau i bobl Powys. Rydym bob amser yn ymdrechu i ddod â chymaint o wasanaethau â phosibl yn ôl i Bowys gan gynnwys asesu a chamau dilynol ar ôl triniaeth. Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Powys a'r sector gwirfoddol i ddiwallu anghenion y gymuned.
Mae eich barn yn bwysig i ni. Rydym am gynnwys pobl leol yn i'n helpu i drawsnewid gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion ac yn anelu at ddod â gofal iechyd yn nes adref. Gobeithio eich bod chi'n hoff o'n gwefan newydd ac yn ei gweld hi'n ddefnyddiol. Os oes gennych unrhyw sylwadau, neu geisiadau am wybodaeth yr hoffech eu gweld ar-lein, rhowch wybod i ni.