Gwybodaeth gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar amseroedd aros Gofal wedi'i Gynllunio yn Lloegr
Diweddarwyd diwethaf 1 Mehefin 2026
Lle bynnag yr ydych yn byw ym Mhowys, y byddwch yn derbyn triniaethau gofal wedi'i gynllunio (cleifion mewnol ac achosion dydd) ac apwyntiadau cleifion allanol yn seiliedig ar fesurau amser aros GIG Cymru.
Cyn Gorffennaf 2025, roedd yr holl ofal wedi'i gynllunio yng Nghymru yn cael ei ddarparu yn seiliedig ar fesurau amser aros GIG Cymru, a'r holl ofal wedi'i gynllunio yn Lloegr yn cael ei ddarparu yn seiliedig ar fesurau amser aros GIG Lloegr.
Mae Fframwaith Perfformiad y GIG yn nodi'r targedau ar gyfer y GIG yng Nghymru yn 2026/27:
Mae gwaith yn parhau i leihau amseroedd aros yn GIG Cymru yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Gofynnwyd i ddarparwyr hefyd ystyried trin cleifion sydd â meddyg teulu yn Lloegr yn unol â safonau GIG Lloegr.
NID yw'r newid hwn yn cynnwys:
Atgyfeiriadau canser
Atgyfeiriadau brys ac mewn argyfwng
Apwyntiadau i bobl dan 18 oed
Pobl sy'n byw y tu allan i Bowys (gan gynnwys os ydych chi wedi cofrestru gyda meddyg teulu ym Mhowys)
Apwyntiadau dilynol a'ch gofal parhaus ar gyfer cyflyrau hirdymor (e.e. diabetes)
Does dim rhaid i chi wneud dim byd. Byddwch yn parhau ar y rhestr aros a bydd yr ysbyty yn cysylltu â chi i drefnu eich apwyntiad. Nid oes angen cysylltu â’ch darparwr ysbyty na'ch meddygfa i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal neu i gyflymu'ch apwyntiad oni bai bod eich symptomau wedi newid yn sylweddol.
Nid yw hwn yn benderfyniad rydyn ni wedi'i wneud yn ysgafn, ac mae'n adlewyrchu'r ffordd rydyn ni'n cael ein hariannu. Mae'n rhaid i ni gymryd camau i fyw o fewn ein modd, neu byddwn yn adeiladu anawsterau ariannol mwy ar gyfer y dyfodol.