Gwnaed y penderfyniad hwn mewn cyfarfod cyhoeddus o'r Bwrdd ar 26 Mawrth 2025.
Fel bwrdd iechyd, ein blaenoriaeth bennaf yw sicrhau'r gofal iechyd gorau posibl i bobl Powys.
Mae'r hinsawdd ariannol ar gyfer y GIG ledled y DU yn parhau i fod yn heriol iawn. Adlewyrchir hyn yn ein sefyllfa ariannol ni yma ym Mhowys.
Yn ein cyfarfod, rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth ofalus iawn i nifer o fesurau ychwanegol a gymerir yn ystod 2025/26 i wella ein sefyllfa ariannol wrth barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da i gleifion Powys yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru.
Trafodwyd a chefnogwyd ein Cynllun Blynyddol drafft ar gyfer 2026/27 gan y Bwrdd mewn cyfarfod cyhoeddus ar 25 Mawrth 2026 ac ailddatganwyd y byddwn yn parhau i gomisiynu yn seiliedig ar amseroedd aros Cymru.
Darllenwch ein Cynllun Blynyddol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys 2026/27.
Nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau.
Nid yw apwyntiadau neu driniaethau cleifion allanol sydd wedi’u trefnu yn barod yn cael eu heffeithio.
Os ydych chi'n aros am driniaeth fel claf mewnol neu glaf dydd, byddwch chi'n parhau ar y rhestr aros a byddwch chi'n derbyn gwahoddiad i'ch triniaeth yn seiliedig ar fesurau amser aros GIG Cymru.
Os ydych chi'n aros am apwyntiad cleifion allanol, nid yw'r rhain yn cael eu heffeithio gan y newid hwn ar hyn o bryd ond mae'r bwrdd iechyd yn cadw hyn dan adolygiad.
Mae gwybodaeth am Gadw'n Iach Tra Byddwch Chi'n Aros ar gael gan ein Gwasanaeth Aros yn Iach.
Mae ein gwefan yn darparu canllawiau defnyddiol ac awgrymiadau gwych.
Er enghraifft, mae Ychwanegu at Fywyd yn asesiad iechyd personol, ar-lein sy’n cynnig llawer o wybodaeth werthfawr wedi’i theilwra a’i datblygu i’ch helpu chi gael y gorau o’ch triniaeth gyda’r GIG. Gall gweithredu nawr i wella eich iechyd corfforol a lles meddyliol nid yn unig yn lleihau’r risg o unrhyw gymhlethdodau yn ystod eich triniaeth, ond bydd hefyd yn fuddiol i’ch adferiad ac iechyd hirdymor, yn eich helpu chi deimlo’n well yn gyflymach. I gwblhau’r asesiad iechyd heddiw, ewch i wefan Ychwanegu at Fywyd.
O ddechrau mis Gorffennaf 2025, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r ysbytai yn Lloegr fel, lle bynnag yr ydych yn byw ym Mhowys, y byddwch yn derbyn triniaethau gofal wedi'i gynllunio (cleifion mewnol ac achosion dydd) ac apwyntiadau cleifion allanol yn seiliedig ar fesurau amser aros GIG Cymru.
Cyn Gorffennaf 2025, roedd yr holl ofal wedi'i gynllunio yng Nghymru yn cael ei ddarparu yn seiliedig ar fesurau amser aros GIG Cymru, a'r holl ofal wedi'i gynllunio yn Lloegr yn cael ei ddarparu yn seiliedig ar fesurau amser aros GIG Lloegr.
Mae Fframwaith Perfformiad y GIG yn nodi'r targedau ar gyfer y GIG yng Nghymru yn 2026/27:
Gofynnwyd i ddarparwyr hefyd ystyried trin cleifion sydd â meddyg teulu yn Lloegr yn unol â safonau GIG Lloegr.
NID yw'r newid hwn yn cynnwys:
Atgyfeiriadau canser
Atgyfeiriadau brys ac mewn argyfwng
Apwyntiadau i bobl dan 18 oed
Pobl sy'n byw y tu allan i Bowys (gan gynnwys os ydych chi wedi cofrestru gyda meddyg teulu ym Mhowys)
Apwyntiadau dilynol a'ch gofal parhaus ar gyfer cyflyrau hirdymor (e.e. diabetes)
Os oes gennych ddyddiad eisoes ar gyfer eich apwyntiad neu driniaeth, yna nid yw hyn yn cael ei effeithio. Mynychwch eich apwyntiad fel arfer.
Does dim rhaid i chi wneud dim byd. Byddwch yn parhau ar y rhestr aros a bydd yr ysbyty yn cysylltu â chi i drefnu eich apwyntiad. Nid oes angen cysylltu â’ch darparwr ysbyty na'ch meddygfa i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal neu i gyflymu'ch apwyntiad oni bai bod eich symptomau wedi newid yn sylweddol.
Nid yw hwn yn benderfyniad rydyn ni wedi'i wneud yn ysgafn, ac mae'n adlewyrchu'r ffordd rydyn ni'n cael ein hariannu. Mae'n rhaid i ni gymryd camau i fyw o fewn ein modd, neu byddwn yn adeiladu anawsterau ariannol mwy ar gyfer y dyfodol.
Gofynnwyd i ddarparwyr yn GIG Lloegr ystyried cleifion sy'n byw ym Mhowys ond sydd â meddyg teulu wedi'i leoli yn Lloegr i gael eu trin yn unol ag amseroedd aros GIG Lloegr.
Nac ydy. Nid yw hyn yn cynnwys trigolion Lloegr sydd â meddyg teulu ym Mhowys.
Bydd amseroedd aros am driniaethau i drigolion Powys sydd â meddyg teulu yng Nghymru yn seiliedig ar fesurau amseroedd aros GIG Cymru ym mhob ysbyty / sefydliad.
Dechreuodd y mesurau hyn ym mis Gorffennaf 2025.
Dylech.
Os oes gennych apwyntiad neu ddyddiad triniaeth wedi'i drefnu eisoes, yna nid yw hyn yn cael ei effeithio gan y mesurau hyn. Mynychwch fel arfer os gwelwch yn dda.
Mae Fframwaith Perfformiad y GIG yn nodi'r targedau ar gyfer y GIG yng Nghymru yn 2026/27:
Ar gyfer y GIG yn Lloegr, y targedau yw na fydd 92% o gleifion yn aros mwy na 18 wythnos erbyn mis Mawrth 2029. Maent wedi gosod nodau gwella blwyddyn ar ôl blwyddyn i gyrraedd y targed hwn. Yn 2026/27, mae angen gwelliant o 7% yn erbyn y targed triniaeth 8 wythnos neu'r isafswm perfformiad o 65% (pa un bynnag sy'n fwyaf) i gyflawni'r targed perfformiad cenedlaethol o 70%.
Bydd eich amser aros yn dibynnu ar lawer o ffactorau gwahanol.
Gall amrywio yn dibynnu ar ddifrifoldeb eich salwch, pa mor brys yw eich llawdriniaeth, a'r arbenigedd a'r darparwr y cewch eich atgyfeirio ato. Bydd eich Ymgynghorydd ysbyty yn dal i asesu eich atgyfeiriad ar ôl ei dderbyn ac nid oes unrhyw newid i'r canllawiau clinigol na'r arfer ar osod blaenoriaeth glinigol y rhestr aros.
Os ydych chi ar restr aros ar gyfer ysbyty yng Nghymru, ewch i wefan Gofal wedi'i Gynllunio GIG 111 Cymru i gael gwybodaeth am amseroedd aros cyfartalog cyfredol:
Ewch i wefan GIG 111 Cymru - Gofal wedi'i Gynllunio
Dewiswch y sefydliad yr ydych wedi cael eich atgyfeirio ato (e.e. dewiswch Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda os ydych chi'n aros am apwyntiad yn Ysbyty Bronglais)
Dewiswch y gwasanaeth (e.e. Gynaecoleg)
Bydd y wefan yn dweud wrthych chi'r amseroedd aros ar GYFARTALEDD ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol ac ar gyfer dechrau triniaeth. Bydd hefyd yn dweud wrthych pa mor hir y gall amseroedd aros fod i rai cleifion.
Os ydych chi ar restr aros ar gyfer ysbyty yn Lloegr, mae gwybodaeth am amseroedd aros cyfartalog cyfredol ar gael o wefan My Planned Care y GIG.
Yr amser aros cyfartalog yw cyfartaledd yr holl gleifion sy'n aros o fewn yr arbenigedd ym mhob sefydliad. Bydd rhai cleifion yn aros llai o amser na'r cyfartaledd a bydd rhai yn aros yn hirach na'r cyfartaledd. Caiff cleifion eu rheoli’n seiliedig ar frys clinigol ac felly gall amseroedd aros amrywio yn dibynnu ar gyflwr clinigol pob claf.
Noder y gallai amseroedd aros i drigolion Powys fod yn hirach na'r amseroedd cyfartalog ar y wefan hon gan ein bod yn comisiynu eich gofal yn seiliedig ar fesurau amser aros GIG Cymru.
Os bydd newid yn y cyflwr y cawsoch eich atgyfeirio ar ei gyfer, dilynwch y cyngor a roddwyd i chi gan y clinigwr a wnaeth yr atgyfeiriad at yr ysbyty.
Os oes newid sylweddol yn eich cyflwr, yna ceisiwch gyngor gan y clinigwr a wnaeth eich atgyfeiriad.
Na fyddwch. Rydym yn cynghori pob claf i aros ar eu llwybr presennol.
Os byddwch yn gofyn am atgyfeiriad at ddarparwr gwahanol yna mae hyn yn debygol o wneud eich amser aros yn hirach nag os byddwch yn aros gyda'ch darparwr presennol.
Gofynnwn i gleifion beidio â chysylltu â'u meddyg teulu i ofyn am atgyfeiriad newydd at ddarparwr gwahanol.
Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael o'n gwefan yn https://biap.gig.cymru/adborth
Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl parhau i gynllunio eich gofal triniaeth fel claf mewnol neu gleifion dydd yn seiliedig ar safonau amser aros Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'r ffordd yr ydym yn cael ein hariannu. Mae hefyd yn helpu sicrhau, lle bynnag yr ydych yn byw ym Mhowys, eich bod yn cael eich trin yn deg o'i gymharu â gweddill Cymru.
Mae Fframwaith Perfformiad y GIG yn nodi'r targedau ar gyfer y GIG yng Nghymru yn 2026/27 sef nad oes unrhyw glaf yn aros mwy na 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf ac nad oes unrhyw glaf yn aros mwy na 104 wythnos am driniaeth. Mae gwaith yn parhau i leihau amseroedd aros yn GIG Cymru yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Mae'r tablau isod yn rhoi crynodeb o'r hyn y gall cleifion mewn ardaloedd ar y ffin ei ddisgwyl fel arfer o ran y safonau ar gyfer cael gafael ar ofal iechyd arbenigol a gofal iechyd nad yw’n arbenigol yn dibynnu ar ble y maent yn byw, lleoliad eu meddyg teulu a'u darparwr gofal iechyd. (Mae ‘safonau’ yn cynnwys trothwyon ar gyfer triniaeth a meini prawf atgyfeirio eraill a bennir gan y bwrdd iechyd lleol neu'r bwrdd gofal integredig.)
|
Preswylfa |
Lleoliad meddyg teulu |
Darparwr yn Lloegr i fodloni |
Darparwr yng Nghymru i fodloni |
|
Cymru |
Cymru |
Safonau GIG Cymru |
Safonau GIG Cymru |
|
Cymru |
Lloegr |
Cyfansoddiad GIG Lloegr |
Safonau GIG Cymru |
|
Lloegr |
Lloegr |
Cyfansoddiad GIG Lloegr |
Safonau GIG Cymru |
|
Lloegr |
Cymru |
Cyfansoddiad GIG Lloegr |
Safonau GIG Cymru |