Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Baich Anghymesur

Rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod y cynnwys ar ein gwefan yn hygyrch. Fodd bynnag, rydym wedi asesu y byddai sicrhau bod pob dogfen a gyhoeddir ar ein gwefan yn bodloni'r ddeddfwriaeth hygyrchedd yn faich anghymesur.  

Gwyddom nad yw rhai dogfennau PDF, Excel a Word yn gwbl hygyrch ac mae'n debygol na fydd dogfennau sy'n cael eu lanlwytho yn y dyfodol ac sydd yn y fformat hwn yn gwbl hygyrch. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gweithio arno.  

Rydym wedi asesu y byddai sicrhau bod pob dogfen a gyhoeddir ar ein gwefan yn bodloni'r ddeddfwriaeth hygyrchedd yn faich anghymesur. 

Cwmpas

Mae rhannu gwybodaeth hygyrch yn bwysig i ni. Rydym wedi ymrwymo i wneud dogfennau sy'n ymwneud â gofal cleifion a darparu ein gwasanaethau'n hygyrch. Mae proses eisoes ar waith ar gyfer hyn.  

Byddwn bob amser yn gwneud gwybodaeth a dogfennau sy'n hanfodol i ddarparu gofal i gleifion yn hygyrch.  

Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth ar ein gwefan eisoes ar gael mewn fformat hygyrch. 

Mae ein hasesiad yn edrych ar ddogfennau PDF, Excel a Word nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau a gofal cleifion. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ein hadroddiad a'n cyfrifon blynyddol, papurau byrddau cyhoeddus, yn ogystal â rhai polisïau, gweithdrefnau, strategaethau, cynlluniau ac adroddiadau. Nid yw'r ffeiliau hyn yn gyson yn bodloni safonau hygyrchedd fel:  

  • Cynnwys nad yw'n destun  
  • Gwybodaeth a pherthnasoedd  
  • Dilyniant ystyrlon  
  • Cyferbyniad (Lleiafswm)  
  • Teitlau tudalen 
  • Dilyniant ffocws 
  • Penawdau a labeli 

Rydym yn parhau i wneud gwelliannau cynyddrannol i hygyrchedd unrhyw fersiynau newydd o'r dogfennau hyn. Mae hyn yn cynnwys:

  • gweithio gyda cydweithwyr i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hygyrchedd a'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gyflawni'r rheoliadau;
  • darparu arweiniad ar gyfer gwneud cynnwys yn hygyrch;
  • annog defnyddio cynnwys HTML hygyrch lle bynnag y bo modd;
  • annog gwasanaethau i ddefnyddio ffurflenni digidol;
  • cynnal profion hygyrchedd ar dudalennau sampl sy'n cynnwys tudalennau poblogaidd, yn ogystal â thudalennau a ddewiswyd ar hap.

Fodd bynnag, ni allwn warantu hygyrchedd llawn ar hyn o bryd. Mae hyn yn rhannol oherwydd fformat data ariannol ac adroddiadau perfformiad yn ogystal â chymhlethdodau rhywfaint o'r wybodaeth.  

Rheoliadau Hygyrchedd y Tu Allan i'r Cwmpas

Nid yw'r gofynion hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau'r Bwrdd a Phwyllgorau, polisïau a dogfennau gweithdrefn y Bwrdd Iechyd neu ddogfennau statudol megis Adroddiadau Blynyddol.

Buddion

Y manteision o wneud y dogfennau hyn yn dudalennau HTML hygyrch yw:  

  • Byddai gwybodaeth yn hygyrch i bawb.  
  • Byddai gwybodaeth yn haws i'w chwilio a'i mynegeio. 

Baich

Ein hasesiad o'r baich o wneud y dogfennau hyn yn dudalennau gwe HTML hygyrch yw:  

  • Mae cannoedd o ffeiliau PDF, Word, Excel a PowerPoint wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.  
  • Byddai angen adolygu pob dogfen er hwylustod. Mae llawer yn debygol o fod angen sawl awr o waith i wneud yn hygyrch. Rydym yn amcangyfrif rhwng dwy a deg ar hugain awr pob dogfen, yn dibynnu ar yr hyd, cymhlethdod, ac unrhyw gymeradwyaeth sydd ei angen.    
  • Mae rhai dogfennau, fel ein papurau bwrdd, yn cael eu llunio gan nifer o bobl ychydig cyn y bydd gofyn cyfreithiol iddynt fod ar gael i'r cyhoedd.  
  • Mae llawer o'r dogfennau yn rhan o'n dyletswydd ddeddfwriaethol fel bwrdd iechyd y GIG, e.e. adroddiadau blynyddol, ac efallai y bydd angen gwirio manwl ar gyhoeddi fersiwn newydd, proses arwyddo ffurfiol, a chyflwyno fersiwn swyddogol newydd.  
  • Mae llawer o'r dogfennau'n cynnwys elfennau cymhleth sy'n anodd eu trosi'n ôl-weithredol, megis tablau manwl, graffiau, a diagramau. 

Ffactorau eraill

Yn berthnasol i'r penderfyniad hwn hefyd yw:   

  • Ein ffocws yw sicrhau bod unrhyw ddogfennau newydd, sy'n ymwneud â gofal cleifion ac sy'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau, yn hygyrch ac yn diwallu anghenion cleifion a phobl sy'n byw yn ein cymunedau.  
  • Yng nghyd-destun y wefan ehangach ac yn seiliedig ar Google Analytics, gallwn weld bod y diddordeb yn y tudalennau sy'n cynnwys y dogfennau o fewn cwmpas yr asesiad hwn yn isel.   
  • Byddwn bob amser yn darparu fersiynau hygyrch o'r dogfennau hyn i bobl ar gais. 

Asesiad

Credwn y byddai trosi dogfennau, lle nad oes llawer o dystiolaeth o alw, yn cynrychioli baich anghymesur ar ein bwrdd iechyd oherwydd yr amser staff y byddai'n ei gymryd a'r costau cysylltiedig.   

O dan y cyfyngiadau ariannol presennol, ni ellir cyfiawnhau talu i asiantaeth allanol i wneud y dogfennau hyn yn hygyrch dros ofynion gwasanaeth hanfodol eraill.  

Bydd ein holl ddefnyddwyr yn elwa o sicrhau bod ein gwefan a'n gwybodaeth ar-lein yn hygyrch, felly canolbwyntio ein hadnodd cyfyngedig ar gynnal y cynnwys hygyrch a ddefnyddir fwyaf ar ein gwefan a sicrhau bod dogfennau newydd yn hygyrch lle mae eu hangen arnynt ar gyfer gwasanaethau hanfodol neu bobl ag anableddau yw ein blaenoriaeth.  

 

Paratoi'r asesiad hwn

Paratowyd yr asesiad hwn ym mis Medi 2023.

Rhannu:
Cyswllt: