Mae ceisiadau am wybodaeth a dderbyniwyd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn cael eu casglu mewn Cofnod Datgelu. Mae hyn yn galluogi aelodau o'r cyhoedd i weld y mathau o geisiadau a dderbynnir a hefyd y wybodaeth a ddarperir mewn ymateb i'r ceisiadau hyn.
Sylwch fod ceisiadau yn cael eu hateb yn yr iaith a dderbyniwyd. Os hoffech gael gwybodaeth wedi'i chyfieithu i'r Gymraeg, neu unrhyw iaith arall, mae'r gwasanaeth hwn ar gael ar gais.
Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch, cysylltwch â Powys.FOI@wales.nhs.uk a fydd yn gallu eich helpu ymhellach