Mae cyngor ar gyfer anhwylderau cyffredin ar gael gan eich fferyllydd lleol ac oddi ar wefan GIG 111 Cymru.
Gwiriwch eich meddygfa leol am wybodaeth am wasanaethau mân anhwylderau a ddarperir yn eich canolfan feddygol.
Yr Uned Mân Anafiadau agosaf yw'r uned yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog.
Mae’r Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys 24 awr agosaf yng Nghaerfyrddin (Glangwili) a Merthyr Tudful (Tywysog Charles).