Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Iechyd a Gofal Glan Irfon (Llanfair-ym-muallt)

Mae uned iechyd a gofal 12 gwely Glan Irfon yn darparu gwasanaeth ailalluogi arhosiad byr.

Gwiriwch ein hadran Gofal Brys i gael gwybodaeth am opsiynau gofal brys lleol.

Ffoniwch 999 mewn argyfwng lle mae bywyd yn y fantol

Love Lane, Pendre, Llanfair ym Muallt, Powys LD2 3DG

01686 252 134

Mae'r ganolfan iechyd a gofal wedi'i lleoli ar y brif A483 i'r gorllewin o Lanfair-ym-Muallt.

Am amseroedd bysiau manwl ewch i dudalen amserlen bysiau Cyngor Sir Powys neu wefan Traveline Cymru

Mae gorsaf reilffordd yn Builth Road neu Gilmeri gyda chysylltiadau â Llandrindod a De Cymru.

 

Mae maes parcio ar gael ar y safle gan gynnwys mannau mynediad i'r anabl.

Mae’r prif gyfleusterau yng Nglan Irfon yn cynnwys:

  • Cyfleusterau Cleifion Allanol
  • Uned iechyd a gofal Glan Irfon (12 gwely)
  • Gwasanaethau Therapi

Gweler y dudalen hon am fanylion pellach.

Mae cyngor ar gyfer anhwylderau cyffredin ar gael gan eich fferyllydd lleol ac oddi ar wefan GIG 111 Cymru.

Gwiriwch eich meddygfa leol am wybodaeth am wasanaethau mân anhwylderau a ddarperir yn eich canolfan feddygol.

Yr Uned Mân Anafiadau agosaf yw'r uned yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog.

Mae’r Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys 24 awr agosaf yng Nghaerfyrddin (Glangwili) a Merthyr Tudful (Tywysog Charles).

Mae'r adran Cleifion Allanol yn darparu ystod o glinigau cleifion allanol gan gynnwys ymgynghorwyr ymweld o ysbytai cyffredinol dosbarth.

Mae'r safle yn ardal dim ysmygu ac mae ysmygu wedi'i wahardd yn llym ar safle'r ysbyty.

Rhannu:
Cyswllt: