Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Coffa Llandrindod (Llandrindod)

Mae Ysbyty Coffa Llandrindod yn ysbyty cymunedol lleol gydag Uned Mân Anafiadau.

Gallwch ddod o hyd i'r oriau agor ar gyfer yr UMA hwn ar ein tudalen Diweddariadau Gwasanaeth Diweddariadau Gwasanaeth - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Gwiriwch ein hadran Gofal Brys i gael gwybodaeth am opsiynau gofal brys lleol.

Ffoniwch 999 mewn argyfwng.

Temple Street, Llandrindod, Powys LD1 5HF

01597 822951

Mae'r ysbyty wedi'i leoli ar y brif ffordd A483 trwy Landrindod.

Am amseroedd bysiau manwl ewch i dudalen amserlen bysiau Cyngor Sir Powys neu wefan Traveline Cymru

Mae gorsaf reilffordd gyda chysylltiadau â Llanfair-ym-Muallt a Threfyclo.

Mae maes parcio ar gael ar y safle gan gynnwys mannau mynediad i'r anabl.

Mae’r prif gyfleusterau yn Ysbyty Llandrindod yn cynnwys:

  • Cyfleusterau Cleifion Allanol
  • Ward Cyffredinol / Meddygol Cleifion Mewnol (Ward Claerwen)
  • Ward Iechyd Meddwl Henoed Cleifion Mewnol (Ward Clywedog)
  • Canolfan Geni dan Arweiniad Bydwragedd
  • Uned Mân Anafiadau
  • Cyfleusterau Pelydr-X
  • Gwasanaethau Therapi
  • Mân Lawfeddygaeth ac Endosgopi
  • Dialysis

Mae Ward Claerwen yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol, adsefydlu a gofal lliniarol.

Mae Ward Clywedog yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl henoed.

Gweler y dudalen hon am fanylion pellach.

Mae cyngor ar gyfer anhwylderau cyffredin ar gael gan eich fferyllydd lleol ac o wefan GIG 111 Cymru.

Gwiriwch eich meddygfa leol am wybodaeth am wasanaethau mân anhwylderau a ddarperir yn eich canolfan feddygol.

Gallwch ddod o hyd i'r oriau agor ar gyfer yr UMA hwn ar ein tudalen Diweddariadau Gwasanaeth Diweddariadau Gwasanaeth - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Mae Unedau Mân Anafiadau ym Mhowys yn gallu trin oedolion a phlant 2 oed a hŷn.

Ar hyn o bryd, mae pob Uned Mân Anafiadau yn gweithredu ar sail "ffôn yn gyntaf". Gofynnir i bob claf ffonio cyn mynychu fel y gallwn ddarparu asesiad a chyngor dros y ffôn i chi, a threfnu apwyntiad fel y bo'n briodol. Mae'r trefniadau hyn ar waith i'ch cadw'n ddiogel a chadw ein staff yn ddiogel:

Mae'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys 24 awr agosaf yn Henffordd.

Mae'r adran Cleifion Allanol yn darparu ystod o glinigau cleifion allanol gan gynnwys ymgynghorwyr ymweld o ysbytai cyffredinol dosbarth, nyrsio a therapïau.

Mae'r safle yn ardal dim ysmygu ac mae ysmygu wedi'i wahardd yn llym ar safle'r ysbyty.

Rhannu:
Cyswllt: