Mae cyngor ar gyfer anhwylderau cyffredin ar gael gan eich fferyllydd lleol ac o wefan GIG 111 Cymru.
Gwiriwch eich meddygfa leol am wybodaeth am wasanaethau mân anhwylderau a ddarperir yn eich canolfan feddygol.
Gallwch ddod o hyd i'r oriau agor ar gyfer yr UMA hwn ar ein tudalen Diweddariadau Gwasanaeth Diweddariadau Gwasanaeth - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Mae Unedau Mân Anafiadau ym Mhowys yn gallu trin oedolion a phlant 2 oed a hŷn.
Ar hyn o bryd, mae pob Uned Mân Anafiadau yn gweithredu ar sail "ffôn yn gyntaf". Gofynnir i bob claf ffonio cyn mynychu fel y gallwn ddarparu asesiad a chyngor dros y ffôn i chi, a threfnu apwyntiad fel y bo'n briodol. Mae'r trefniadau hyn ar waith i'ch cadw'n ddiogel a chadw ein staff yn ddiogel:
Mae'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys 24 awr agosaf yn Henffordd.