Neidio i'r prif gynnwy

Ceisio eich barn ar newidiadau i Wasanaethau Strôc yn Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon

Daeth yr ymgysylltiad hwn i ben ar 11 Tachwedd 2022. Cyhoeddwyd adroddiad ymgysyllyty ganddynt ym mis Ebrill 2023. Byddwn yn rhannu gwybodaeth bellach yn fuan am y camau nesaf.

Ydych chi’n defnyddio gwasanaethau ysbyty acíwt yn Henffordd? Hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith o lywio dyfodol gwasanaeth strôc yn Henffordd a Chaerwrangon?

Cymerwch gipolwg ar y wybodaeth isod, a dweud eich dweud erbyn 11 Tachwedd 2022.

Cefndir

Mae strôc yn gyflwr difrifol sy’n bygwth bywyd. Dyma brif achos marwolaeth ac anableddau yn y DU. Bydd tua un o bob chwech o bobl yn cael strôc yn ystod eu hoes, ac amcangyfrifir y bydd tua 30% o'r bobl sy'n cael strôc yn mynd ymlaen i brofi un arall rhywbryd.

Gyda’r driniaeth arbenigol, gofal a chefnogaeth gywir, gall bobl barhau i fyw bywydau llawn ac annibynnol.

O ganlyniad i natur wledig Powys, rydym yn defnyddio gwasanaethau ysbytai arbenigol gan siroedd cyfagos. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau strôc hyperacíwt ac acíwt.

Y prif ysbytai sy'n darparu gwasanaethau strôc hypercíwt ac acíwt i drigolion Powys yw:

  • Ysbyty’r Sir yn Henffordd
  • Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth
  • Ysbyty Princess Royal yn Telford (mae'r gwasanaethau hyn ar fin symud i'r Amwythig fel rhan o'r gwaith o ad-drefnu gwasanaethau ysbyty yn Swydd Amwythig)
  • Ysbyty Treforys yn Abertawe
  • Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful

Mae adolygiad o'r gwasanaethau strôc yn Henffordd a Chaerwrangon ar y gweill ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth a ddarperir yn Ysbyty’r Sir yn Henffordd. Maen nhw'n edrych ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau strôc o safon uchel, gan gynnwys i'r cleifion maen nhw'n eu gwasanaethu ym Mhowys.

Maen nhw wedi datblygu golwg ar sut y gellid darparu'r gwasanaethau hyn yn y dyfodol. Eglurir hyn yn y Papur Materion ac wedi’i grynhoi yn y cyflwyniad ar lafar.

Nid yw'r cynigion hyn yn effeithio ar wasanaethau strôc arbenigol yn yr ysbytai eraill a restrir uchod. Nid ydynt chwaith yn effeithio ar ein gwasanaethau cymunedol lleol, na'n gwasanaethau adsefydlu strôc cleifion mewnol yn Aberhonddu a'r Drenewydd.

Mae’r Papur Materion ar gael yn Saesneg ac yn ffurf Hawdd ei Ddeall neu os hoffech y ddogfen mewn iaith neu ffurf wahanol, cysylltwch â thîm ymgysylltu Henffordd a Chaerwrangon ar hw.engage@nhs.net 

Sut i leisio eich barn gyda’r Adolygiad ar Wasanaethau Strôc Henffordd a Chaerwrangon:

Fel rhan o'r gwaith ymgysylltu hwn, cynhelir digwyddiad ar-lein am 5.15yp ddydd Iau 10 Tachwedd 2022. Cynhelir y digwyddiad dros Microsoft Teams Live a gallwch archebu trwy glicio ar y ddolen hon.

Efallai yr hoffech hefyd rannu eich barn gyda ni (Bwrdd Iechyd Addysgu Powys), a gyda Chyngor Iechyd Cymuned Powys sef y corff annibynnol statudol i gynrychioli budd y cyhoedd yn y GIG:

Bydd y cyfnod ymgysylltu yn dod i ben ar 11 Tachwedd 2022.

Mae'r wybodaeth hon yn cael ei rhannu ar ran System Gofal Integredig Henffordd a Chaerwrangon (ICS). Mae rhagor o wybodaeth ar gael am yr ICS ac yr adolygiad hwn ar gael yn eu gwefan ar https://www.hwics.org.uk/get-involved/involvement-opportunities/stroke-services

Diweddaru 20/09/2022

Rhannu:
Cyswllt: