Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ymrwymo i sicrhau nid yw cyn-filwyr y lluoedd arfog a’u teuluoedd yn wynebu unrhyw anfantais wrth gyrchu ein gwasanaethau, boed hynny fel claf neu gydweithiwr. Llofnododd y bwrdd iechyd Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2016 ac mae'n parhau i hyrwyddo hawliau cyn-filwyr a chymunedau'r lluoedd arfog i sicrhau mynediad teg i'w hanghenion gofal iechyd.
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan genedl y DU sy'n sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Mae'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus penodol i roi sylw dyledus i egwyddorion y Cyfamod wrth gyflawni swyddogaethau penodol mewn gofal iechyd, addysg a thai. I ddeall mwy am y cyfamod, ewch i Gyfamod y Lluoedd Arfog.
Fel bwrdd iechyd, ac fel sy'n ofynnol gan Gyfamod y Lluoedd Arfog, byddwn yn gwneud penderfyniadau triniaeth yn seiliedig ar angen clinigol pan fydd yr anaf yn gysylltiedig â'r gwasanaeth, a bydd cefndir y Lluoedd Arfog yn cael ei ystyried i sicrhau nad yw cleifion dan anfantais.
Er mwyn i ni ddarparu'r gofal gorau i'r rhai sydd â chefndir milwrol, mae angen i ni wybod a ydych chi'n rhan o Gymuned y Lluoedd Arfog (Rheolaidd, Wrth Gefn, Cyn-filwr, Priod, neu blentyn aelod sy'n gwasanaethu).
Rhowch wybod i aelod o staff pan fyddwch yn mynychu apwyntiad ysbyty fel y gallwn sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei chasglu ac i sicrhau eich bod ar y llwybr cywir.
Cerdyn cyn-filwr y Lluoedd Arfog EF - Mae Cerdyn Cyn-filwyr Lluoedd Arfog EF yn ffordd o brofi eich bod wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU. Gall y cerdyn ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws gwneud cais am gymorth fel cyn-filwr.
Mae'n bwysig iawn i ofal iechyd parhaus eich bod yn cofrestru gyda meddyg teulu'r GIG a chofiwch ddweud wrthynt eich bod wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog o'r blaen. Os ydych wedi gadael y lluoedd arfog yn ddiweddar, mae'n bwysig rhoi'r gwaith papur a gawsoch gan eich canolfan feddygol filwrol i'ch meddyg teulu, gan gynnwys unrhyw gofnodion meddygol. Bydd hyn yn helpu sicrhau bod eich cofnod iechyd milwrol yn trosglwyddo i'ch cofnod iechyd GIG. Bydd hefyd yn rhoi gwybodaeth i'ch meddyg teulu am eich iechyd ac yn sicrhau bod unrhyw driniaeth barhaus yn parhau.
Bydd cael eich nodi fel cyn-filwr yn eich nodiadau meddygol GIG yn helpu sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau pwrpasol i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl ac iechyd corfforol.
Yng Nghymru, mae gan gyn-filwyr fynediad at wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru. Mae hon yn wasanaeth blaenoriaeth arbenigol i bobl sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, sy'n profi anawsterau iechyd meddwl yn ymwneud yn uniongyrchol â'u gwasanaeth milwrol. Gall cyn-filwyr atgyfeirio eu hunain at y gwasanaeth neu gael eu cyfeirio gan y meddyg teulu neu weithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill sy'n gweithio gyda chyn-filwyr.
Mae BIAP yn croesawu ceisiadau gan filwyr wrth gefn sy'n gwasanaethu, gan gydnabod a gwerthfawrogi'r arbenigedd ychwanegol a'r sgiliau trosglwyddadwy y maent yn eu datblygu trwy hyfforddiant y lluoedd arfog a'u gyrfa filwrol, megis gwaith tîm, datrys problemau, arweinyddiaeth, ymrwymiad, penderfyniad a hunanhyder.
Mae gan BIAP bolisi milwyr wrth gefn i gefnogi eich gwasanaeth milwrol ac amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa, i ddarganfod beth yw'r rhain, edrychwch ar ein swyddi gwag presennol.
Mae BIAP yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi gadael gwasanaethu. Mae gan unigolyn sy’n gadael gwasanaethu, trwy eu gyrfa a'u hyfforddiant milwrol, brofiad helaeth o weithio mewn amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol o fewn y gwasanaethau, gan gynnwys hyfforddwyr, gweinyddwyr, rheolwyr TG, nyrsys, a rheolwyr gweithrediad / cyfleusterau/prosiect mewn sefyllfaoedd heriol a chymhleth.
Unwaith eto, mae gan BIAP amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa a chynllun gwarantu cyfweliad, i ddarganfod beth yw'r rhain, edrychwch ar ein swyddi gwag presennol neu ein tudalen recriwtio cyn-filwyr.
Recriwtio Cyn-filwyr - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)