Rydym yn falch o gyflwyno fersiwn bob dydd o Gynllun Integredig Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gyfer y cyfnod 2023 i 2026.
Mae'r cynllun yn cyfuno’r ystod o gyfrifoldeb sydd gan y Bwrdd Iechyd o ran cynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer ei drigolion.
2023 yw’r pwynt hanner ffordd yn ein Strategaeth Iechyd a Gofal leol 'Powys Iach a Gofalgar' a 75 mlynedd ers geni'r GIG. Mae fframwaith strategol cryf yn allweddol i'n cynllun, gan fod y Bwrdd Iechyd yn ddarparwr ac yn gomisiynydd gofal iechyd ar gyfer poblogaeth Powys sy'n cyrchu gwasanaethau yng Nghymru a Lloegr.
Mae cysylltiad cryf rhwng 'Powys Iach a Gofalgar', y strategaeth iechyd a gofal ym Mhowys a'r uchelgais ar gyfer 'Cymru Iachach' a nodir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cynllun hwn yn gweithredu 'dull system gyfan', gan adeiladu ar ein hanes cryf o weithio gyda phartneriaid i ddiwallu anghenion trigolion Powys.
Mae hefyd yn ymateb i'r heriau a wynebwyd dros y blynyddoedd diwethaf a'r effeithiau y byddant yn parhau i'w cael wrth symud ymlaen. Yn arbennig, effaith y pandemig ar les a darpariaeth gofal iechyd, ond hefyd anawsterau economaidd-gymdeithasol ehangach sy'n codi'n fyd-eang ac effeithio’n lleol, gan gynnwys cynnydd yng nghostau byw ein poblogaeth.
O ystyried yr heriau, nid yw'r bwrdd iechyd wedi gallu cyflwyno cynllun sy’n ariannol gytbwys ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond yn hytrach mae wedi nodi nifer o flaenoriaethau strategol, i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n barhaus ac yn ymateb i Flaenoriaethau Gweinidogol.
Mae ffocws o'r newydd ar wella gwerth a dal i fyny ar ofal sydd wedi ei ohirio oherwydd y pandemig; tra hefyd yn cyflymu gwaith ar fodel gofal cynaliadwy. Mae hwn yn waith cymhleth a fydd yn para dros gyfnod y cynllun hwn a thu hwnt.
Cynllun y bwrdd iechyd yw hwn ond mae'n cydnabod y cydweithio a'r gwaith tîm sy'n rhan o ddarparu gofal iechyd ym Mhowys, yn amrywio o'r trydydd sector, i gontractwyr gofal sylfaenol a chydweithwyr gofal cymdeithasol, yn ogystal â'r gofal acíwt ac arbenigol a ddarperir gan sefydliadau eraill ledled Cymru a dros y ffin yn Lloegr.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynllunio BIAP dros e-bost yn: planning.powys@wales.nhs.uk
Efallai na fydd y ffeiliau hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol. Cysylltwch â ni yn planning.powys@wales.nhs.uk i ofyn am fformat gwahanol.