Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Integredig 2023-26

Rydym yn falch o gyflwyno fersiwn bob dydd o Gynllun Integredig Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gyfer y cyfnod 2023 i 2026.  

Mae'r cynllun yn cyfuno’r ystod o gyfrifoldeb sydd gan y Bwrdd Iechyd o ran cynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer ei drigolion.   

2023 yw’r pwynt hanner ffordd yn ein Strategaeth Iechyd a Gofal leol 'Powys Iach a Gofalgar' a 75 mlynedd ers geni'r GIG. Mae fframwaith strategol cryf yn allweddol i'n cynllun, gan fod y Bwrdd Iechyd yn ddarparwr ac yn gomisiynydd gofal iechyd ar gyfer poblogaeth Powys sy'n cyrchu gwasanaethau yng Nghymru a Lloegr. 

Mae cysylltiad cryf rhwng 'Powys Iach a Gofalgar', y strategaeth iechyd a gofal ym Mhowys a'r uchelgais ar gyfer 'Cymru Iachach' a nodir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cynllun hwn yn gweithredu 'dull system gyfan', gan adeiladu ar ein hanes cryf o weithio gyda phartneriaid i ddiwallu anghenion trigolion Powys. 

Mae hefyd yn ymateb i'r heriau a wynebwyd dros y blynyddoedd diwethaf a'r effeithiau y byddant yn parhau i'w cael wrth symud ymlaen. Yn arbennig, effaith y pandemig ar les a darpariaeth gofal iechyd, ond hefyd anawsterau economaidd-gymdeithasol ehangach sy'n codi'n fyd-eang ac effeithio’n lleol, gan gynnwys cynnydd yng nghostau byw ein poblogaeth. 

O ystyried yr heriau, nid yw'r bwrdd iechyd wedi gallu cyflwyno cynllun sy’n ariannol gytbwys ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond yn hytrach mae wedi nodi nifer o flaenoriaethau strategol, i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n barhaus ac yn ymateb i Flaenoriaethau Gweinidogol. 

Mae ffocws o'r newydd ar wella gwerth a dal i fyny ar ofal sydd wedi ei ohirio oherwydd y pandemig; tra hefyd yn cyflymu gwaith ar fodel gofal cynaliadwy. Mae hwn yn waith cymhleth a fydd yn para dros gyfnod y cynllun hwn a thu hwnt.

Cynllun y bwrdd iechyd yw hwn ond mae'n cydnabod y cydweithio a'r gwaith tîm sy'n rhan o ddarparu gofal iechyd ym Mhowys, yn amrywio o'r trydydd sector, i gontractwyr gofal sylfaenol a chydweithwyr gofal cymdeithasol, yn ogystal â'r gofal acíwt ac arbenigol a ddarperir gan sefydliadau eraill ledled Cymru a dros y ffin yn Lloegr. 

  • Mae'r fersiwn gryno hon ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gellir darparu fformatau eraill ar gais. 
  • Mae'r fersiwn lawn o'r cynllun ar gael ar wefan y bwrdd iechyd yn Gymraeg a Saesneg. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynllunio BIAP dros e-bost yn: planning.powys@wales.nhs.uk

Efallai na fydd y ffeiliau hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol. Cysylltwch â ni yn planning.powys@wales.nhs.uk i ofyn am fformat gwahanol.

 

Rhannu:
Cyswllt: