Neidio i'r prif gynnwy

Fy Mywyd, Fy nymuniadau

Logo My Life My Wishes - dau gylch glas gyda thestun y tu mewn - Fy Mywyd Fy Nymuniadau - Fy nogfen i yw hon

Mae Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw (ACP) i bawb.

Mae’n ffordd wirfoddol o feddwl, paratoi a chynllunio ar gyfer eich gofal yn y dyfodol a diwedd eich oes. Mae’n bosibl bydd diwedd eich oes blynyddoedd, misoedd, wythnosau neu ddiwrnodau i ffwrdd, ond mae llawer o bobl yn ei gweld hi'n ddefnyddiol meddwl am Gynllunio Gofal Ymlaen Llaw yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Gall eich helpu i drafod a phenderfynu beth sydd bwysicaf i chi, yn ogystal â rhannu eich dymuniadau ag eraill. Gall fod yn gymorth gwych i'ch anwyliaid i wybod beth fyddech chi ei eisiau, os na allwch chi siarad drosoch hun.

Mae Fy Mywyd, Fy Nymuniadau yn Gynllun Gofal Ymlaen Llaw neu’n Ddatganiad o Ddymuniadau.

Mae Fy Mywyd Fy Nymuniadau yn ddogfen sy’n aros gyda chi, er mae’n bwysig eich bod yn rhannu eich dymuniadau. Os dymunwch, gall hefyd ei uwchlwytho ar system wybodaeth eich meddyg teulu. Nid oes angen i chi lenwi'r cyfan a gallwch ei newid dros amser. Cafodd ei dylunio ar gyfer oedolion (18+) sydd â galluedd meddyliol (y gallu i wneud penderfyniad eu hun). Mae ei chwblhau yn broses wirfoddol a all eich helpu i gofnodi eich dymuniadau ynghylch sut yr hoffech gael gofal yn y dyfodol.

 

Rhagor o wybodaeth:

 

Rhannu:
Cyswllt: