Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Bro Ddyfi

 

Gweld ein taith gerdded diweddaraf Matterport uwchben neu ewch i: Ysbyty Bro Ddyfi Walk-Through Mis Tachwedd 2022

Mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer datblygu Ysbyty Bro Ddyfi ym Machynlleth. Yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ein cais am gyllid cyfalaf, disgwylir i'r gwaith ddechrau yn ddiweddarach y gwanwyn hwn i wella'r cyfleusterau ysbyty, iechyd a lles ar gyfer cymunedau Dyffryn Dyfi.

Caiff y dudalen hon ei diweddaru gyda rhagor o wybodaeth unwaith y cyhoeddir cymeradwyaeth cyllid cyfalaf.

Newyddion Diweddaraf - Machynlleth

13/07/25
Gwella Gyda'n Gilydd ym Mhowys - Pythefnos tan y dyddiad cau ar 27 Gorffennaf

Mae pythefnos o hyd i chi ddweud eich dweud fel rhan o gam presennol Gwella Gyda'n Gilydd.

08/07/25
Diweddariad gan Hayley Thomas: Gwell Gyda'n Gilydd ym Mhowys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwahodd trigolion Powys i gymryd rhan wrth iddynt geisio barn ar ddyfodol gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol oedolion yn y gymuned.

12/06/25
Cadarnhau digwyddiad ymgynghori Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym Machynlleth ar 7 Gorffennaf 2025

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y gweill tan 31 Awst 2025.

09/06/25
Gwella Gyda'n Gilydd ym Mhowys: Ceisio'ch barn ar Wasanaethau Cymunedol Iechyd Corfforol a Meddyliol i Oedolion ym Mhowys

Rydym yn ceisio eich barn gychwynnol ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol ym Mhowys erbyn 27 Gorffennaf 2025. Mae ein gwefan yn esbonio sut y gallwch ddarganfod mwy a dweud eich dweud.

29/05/25
Ymgynghoriad cyhoeddus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar eu Cynllun Gwasanaethau Clinigol

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y gweill tan ddydd Sul 31 Awst 2025.

30/04/25
Dyfarnu cyllid i wasanaeth iechyd awyr agored ar gyfer pobl Bro Ddyfi
Clychau
Clychau

Bydd Awyr Iach yn galluogi galluogi trigolion Bro Ddyfi i gael mynediad at weithgareddau awyr agored ym myd natur i roi hwb i’w llesiant a’u hiechyd

28/04/25
Helpwch ni i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd diogel ac o ansawdd i Bowys

Dweud eich dweud erbyn 25 Mai 2025.

20/03/25
Nyrsys diweddaraf Machynlleth yn pasio eu harholiadau – ac yn canmol y croeso cynnes gan y gymuned

Mae criw o nyrsys sy'n hanu o dalaith dde orllewin India Kerala wedi bod yn dathlu pasio eu harholiadau OSCE - ac wedi canmol y croeso a gawsant gan gymuned Machynlleth ers iddynt symud i'r dref.

20/01/25
Mae staff rhyngwladol yn llwyddo mewn arholiadau OSCE

Mae grŵp o nyrsys sydd wedi'u haddysgu'n rhyngwladol yn y Drenewydd wedi bod yn dathlu pasio eu harholiadau OSCE.

 

Mae’r grŵp o chwech i gyd yn hanu o India ac wedi cael eu recriwtio gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i helpu i leihau’r ddibyniaeth ar nyrsys asiantaeth.

06/12/24
Peidiwch ag ymweld ag ysbyty gyda symptomau ffliw neu ddolur rhydd a chwydu

Mae'r GIG ym Mhowys yn gofyn i bobl beidio ag ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty os ydynt yn sâl, wedi bod yn sâl yn y 48 awr ddiwethaf, neu wedi bod mewn cysylltiad â phobl â dolur rhydd, chwydu neu symptomau tebyg i’r ffliw yn ystod y dyddiau diwethaf.

Rhannu:
Cyswllt: