Cysylltu ag Aelodau'r Bwrdd
Os hoffech gysylltu ag Aelod o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, gellir cyflwyno gohebiaeth naill ai drwy broses cyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd neu'n uniongyrchol drwy'r Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol.
Dylid anfon ymholiadau, sylwadau, cwestiynau neu faterion yr hoffech eu dwyn i sylw'r Bwrdd at y Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol, a fydd yn sicrhau eu bod yn cael eu cyfeirio'n briodol. Gellir cysylltu â'r Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol drwy: PowysDirectorate.CorporateGovernance@wales.nhs.uk
Mae gwybodaeth am fynychu cyfarfodydd y Bwrdd, cyflwyno cwestiynau a chael mynediad at bapurau cyfarfod i'w gweld yn adran Cyfarfodydd y Bwrdd ar y wefan hon- Cyfarfodydd y Bwrdd - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae Pete Hopgood wedi'i gadarnhau fel Prif Weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystod absenoldeb salwch Hayley Thomas.