Neidio i'r prif gynnwy

27 Medi 2023 CCB

Estynnwn groeso cynnes i chi ymuno â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ddydd Mawrth 27 Medi 2023 rhwng 2pm a 3pm dros Microsoft Teams.

Cynhelir ein CCB rhwng 2.00pm a 3.00pm ar 27 Medi 2023 yn rhithwir dros Microsoft Teams. Gallwch ymuno a chymryd rhan yn y cyfarfod ar-lein trwy’r ddolen ganlynol: Dolen at y Digwyddiad

Bydd yn gyfle i rannu rhai o lwyddiannau a heriau'r flwyddyn, a'n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Mae hwn hefyd yn gyfle pwysig i ni glywed gennych chi am eich dyheadau ar gyfer dyfodol iechyd a lles ym Mhowys.

Bydd y CCB yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau gan Aelodau'r Bwrdd.  Bydd gwybodaeth weledol yn cael ei chyflwyno’n ddwyieithog. 

Gallwch gyrchu copïau electronig o'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol 2022/23 cyn y cyfarfod. Os oes angen copi o’r Adroddiad Blynyddol neu’r Cyfrifon Blynyddol mewn fformat amgen, cysylltwch â Chyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Tŷ Glasbury, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Aberhonddu LD3 0LY.

Bydd sesiwn holi ac ateb rithwir yn dilyn y cyflwyniadau, lle bydd gennych gyfle i ofyn cwestiynau yn Gymraeg a Saesneg. Estynnwn wahoddiad i chi ofyn cwestiynau cyn y cyfarfod, drwy eu hanfon at PowysDirectorate.CorporateGovernance@wales.nhs.uk erbyn 22 Medi 2023.

Sylwer, nid oes angen derbyn y gwahoddiad nac ymddiheuro am fethu’r cyfarfod hwn yn swyddogol.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 27 Medi 2023

Rhannu:
Cyswllt: