Neidio i'r prif gynnwy

11 Medi 2024 (CCB)

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

2yp-3yp, 11 Medi 2024

Mae'n bleser gennym eich gwahodd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Bydd ein CCB yn cael ei gynnal rhwng 2.00yp a 3.00yp ar 11 Medi 2024 yn rhithwir trwy Microsoft Teams. Gallwch ymuno a chymryd rhan yn y cyfarfod ar-lein trwy'r dudalen hon (dolen isod).

Bydd yn rhoi cyfle i rannu rhai o lwyddiannau a heriau'r flwyddyn ddiwethaf, a'n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae’n gyfle pwysig i ni hefyd glywed gennych am eich dyheadau ar gyfer dyfodol iechyd a lles ym Mhowys.

Bydd y CCB yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau gan Aelodau'r Bwrdd.

Bydd copïau electronig o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol 2023/24 a Chynllun Integredig BIAP 2024/29 ar gael isod cyn y cyfarfod.

Bydd sesiwn holi ac ateb rhithwir yn dilyn y cyflwyniadau, lle bydd cyfle i ofyn cwestiynau yn Saesneg ac yn Gymraeg. Fe'ch gwahoddir hefyd i ofyn cwestiynau cyn y cyfarfod, trwy eu hanfon at powysdirectorate.corporategovernance@wales.nhs.uk

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn ein CCB ar 11 Medi 2024.

Yr eiddoch yn gywir

Dr Carl Cooper, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Hayley Thomas, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys 

Rhannu:
Cyswllt: