Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
09:30 - 10:30, 30 Gorffennaf 2026
Mae'n bleser gennym eich gwahodd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Bydd ein CCB yn cael ei gynnal rhwng 09.30 a 10.30 ar 30 Gorffennaf 2026 yn rhithwir trwy Microsoft Teams. Gallwch ymuno a chymryd rhan yn y cyfarfod ar-lein trwy'r dudalen hon (ychwanegir dolen isod cyn y cyfarfod).
Bydd yn rhoi cyfle i rannu rhai o lwyddiannau a heriau'r flwyddyn ddiwethaf, a'n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae’n gyfle pwysig i ni hefyd glywed gennych am eich dyheadau ar gyfer dyfodol iechyd a lles ym Mhowys.
Bydd y CCB yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau gan Aelodau'r Bwrdd.
Bydd copïau electronig o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol 2025/26 a Chynllun Blynyddol BIAP 2026/27 ar gael isod cyn y cyfarfod.
Bydd sesiwn holi ac ateb rhithwir yn dilyn y cyflwyniadau, lle bydd cyfle i ofyn cwestiynau yn Saesneg ac yn Gymraeg. Fe'ch gwahoddir hefyd i ofyn cwestiynau cyn y cyfarfod, trwy eu hanfon at powysdirectorate.corporategovernance@wales.nhs.uk.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn ein CCB ar 30 Gorffennaf 2026.
Yr eiddoch yn gywir
Dr Carl Cooper, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Pete Hopgood, Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
No matching content found.