Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys

Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys (BPRP) yw'r corff cyfreithiol statudol, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2016 gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru). Ei rôl allweddol yw nodi meysydd gwella allweddol ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth ym Mhowys. Mae'r Bwrdd hefyd wedi cael y dasg gyfreithiol o nodi cyfleoedd integreiddio rhwng Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

Mae'r Bwrdd yn amlasiantaethol ac yn dwyn ynghyd arweinwyr awdurdodau lleol, prif weithredwyr a rheolwyr gyfarwyddwyr o Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys, y trydydd sector, sefydliadau preifat sy'n darparu gofal a chynrychiolwyr dinasyddion sydd naill ai'n derbyn gofal, neu mewn rôl ofalgar.

Mae mwy o wybodaeth am Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys ar gael o https://www.powysrpb.org

Academi Iechyd a Gofal Powys

Mae gwaith Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys wedi cynnwys creu Academi Iechyd a Gofal newydd ym Mhowys, fel rhan o fenter ledled Cymru i gynyddu mynediad lleol i addysg, hyfforddiant a datblygiad ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Gallwch glywed mwy am Academi Iechyd a Gofal Powys yma: https://cy.powysrpb.org/powyshealthandcareacademy

Rhannu:
Cyswllt: