Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Gweithredol

Cyfansoddwyd y Pwyllgor Gweithredol gan y Bwrdd a hwn yw pwyllgor gwneud penderfyniadau gweithredol y sefydliad, dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr fel Swyddog Atebol.

Mae'r Swyddog Atebol yn gyfrifol am drefniadaeth, rheolaeth a staffio'r Bwrdd Iechyd yn gyffredinol a'i drefniadau sy'n ymwneud ag ansawdd a diogelwch gofal yn ogystal â materion cyllid, ynghyd ag unrhyw agwedd arall sy'n berthnasol i gynnal busnes y Bwrdd Iechyd o'r cyfarwyddiadau strategol a osodwyd gan Fwrdd y Bwrdd Iechyd, ac yn unol â'i gyfrifoldebau statudol.

Mae'r Pwyllgor Gweithredol yn gyfrifol am sicrhau cydgysylltiad gweithredol effeithiol holl swyddogaethau'r sefydliad, a thrwy hynny gefnogi'r Prif Weithredwr i gyflawni'r cyfrifoldebau a ddirprwyir i'r Swyddog Atebol.

Rhannu:
Cyswllt: