Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Taliadau a Thelerau Gwasanaeth

Pwrpas y Pwyllgor Taliadau a Thelerau Gwasanaeth yw:

  • darparu sicrwydd i'r Bwrdd mewn perthynas â threfniadau'r bwrdd iechyd ar gyfer tâl a thelerau gwasanaeth, gan gynnwys trefniadau cytundebol, ar gyfer staff, yn unol â'r gofynion a'r safonau a bennir ar gyfer y GIG yng Nghymru;
  • darparu cyngor i'r Bwrdd ar dâl a thelerau gwasanaeth i'r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Gweithredol ac uwch staff eraill o fewn y fframwaith a osodwyd gan Lywodraeth Cymru; a
  • chyflawni rhai swyddogaethau penodol fel y'u dirprwywyd gan y Bwrdd ac yn Adran 3 o'r Cylch Gorchwyl llawn.

Mae'r Pwyllgor hwn yn cyfarfod mewn sesiwn gaeedig.

Rhannu:
Cyswllt: