Mae brechiad Feirws Syncytial Anadlol (RSV) Arferol ar gael ym Mhowys i'r grwpiau canlynol:
Bydd menywod beichiog ym Mhowys yn cael cynnig brechiad RSV ar bwynt 28 wythnos yn feichiog (gyda'r nod o amddiffyn eu babanod newydd-anedig).
Byddwch yn cael cynnig y brechiad hwn drwy eich Bydwraig Powys.
Mae'r rhaglen RSV ar gyfer oedolion hŷn yn cynnwys y rhaglen arferol (y rhai sy'n troi'n 75 oed o 1 Medi 2024) a'r rhaglen dal i fyny (yr oedolion hynny a oedd eisoes rhwng 75 a 79 oed ar 1 Medi 2024).
Os ydych chi'n gymwys i gael brechiad, bydd Gwasanaeth Brechu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cysylltu â chi neu drwy Feddygfeydd sy'n cymryd rhan i gynnig apwyntiad i chi.
Am fwy o wybodaeth am Frechiad RSV, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.