Cynyddodd cyfran y plant ym mlynyddoedd 7 i 11 yng Nghymru sy’n dweud eu bod yn fepio o leiaf unwaith yr wythnos i 7% yn 2023, cynnydd o 5.4% yn 2021 a 2.7% yn 2019, a hynny yn ôl ffigurau gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion. Mae’r data’n dangos bod 19.6% o bobl ifanc (11 i 16 oed) wedi rhoi cynnig ar fepio ym Mhowys, ychydig yn is na chyfartaledd Cymru o 20.4%.
Yr argymhelliad yw na ddylai plant a phobl ifanc, nac unrhyw un sydd heb ysmygu o’r blaen, fêpio, gan na ellir gwneud hyn heb achosi niwed. Yn y tymor byr, gall pobl ddioddef cur pen, dolur gwddf, pendro a pheswch. Er bod e-sigaréts wedi bod ar gael ers dros 15 mlynedd, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth ar beth yw’r effeithiau hirdymor posib fêpio. Ni ddylai ymennydd sy'n datblygu fod yn agored i nicotin. Mae’n peri risg o ddibyniaeth a gall fod yn gam tuag at ddefnyddio tybaco.
Mae sawl myth a chamsyniad ynglŷn â’r defnydd o e-sigaréts, yn enwedig gan blant a phobl ifanc. At hyn mae rhai siopau’n sy'n gwerthu e-sigarets yn hysbysebu eu bod yn 'rhydd o nicotin' er eu bod, mewn gwirionedd yn cynnwys, lefelau uchel o nicotin.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio adnodd gwybodaeth a chanllawiau ar fêpio i ddysgwyr oedran ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae'r ddogfen yn darparu data a gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ysgolion gan gynnwys sut y gallant ymateb i fêpio a mynd i'r afael ag ef yn eu lleoliad drwy bolisi, arferion, a chynnwys y cwricwlwm.