Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar Fêpio/E-sigaréts ar gyfer Ysgolion a Cholegau ym Mhowys

Set o sigaréts electronig tafladwy lliwgar o wahanol siapiau ar gefndir gwyn.

Peidiwch â dechrau fêpio!

Y sefyllfa bresennol ar draws Powys

Mae ffigurau diweddar gan Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) yn awgrymu bod nifer y plant a phobl ifanc o Bowys (11-16 oed) sy’n ysmygu yn parhau i ostwng – o 4.4% yn 2019 i 3.5% yn 2021.

Fodd bynnag, mae cynnydd wedi bod yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n defnyddio e-sigaréts/ fêpio ar hyn o bryd. Yn y DU, mae cyfran y bobl ifanc 11–17 oed sy’n fêpio ar hyn o bryd wedi cynyddu o 4% yn 2020 i 7% yn 2022. Mae data arolwg y SHRN yn dangos bod 5% o blant yng Nghymru yn fêpio bob wythnos.

Mae data SHRN yn dangos bod 19.6% o bobl ifanc (11-16 oed) wedi ceisio fêpio ym Mhowys, ychydig yn is na chyfartaledd Cymru o 20.4%.

Nid yw fêpio yn ddiniwed 

Yr argymhelliad yw na ddylai plant a phobl ifanc, nac unrhyw un sydd heb ysmygu o’r blaen,  fêpio, gan na ellir gwneud hyn heb achosi niwed.  Yn y tymor byr, gall pobl ddioddef cur pen, dolur gwddf, pendro a pheswch. Er bod e-sigaréts wedi bod ar gael ers dros 15 mlynedd, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth ar beth yw’r effeithiau hirdymor posib fêpio. Ni ddylai ymennydd sy'n datblygu fod yn agored i nicotin. Mae’n peri risg o ddibyniaeth a gall fod yn gam tuag at ddefnyddio tybaco.

Mae sawl myth a chamsyniad ynglŷn â’r defnydd o e-sigaréts, yn enwedig gan blant a phobl ifanc. At hyn mae rhai siopau’n sy'n gwerthu e-sigarets yn hysbysebu eu bod yn 'rhydd o nicotin' er eu bod, mewn gwirionedd yn cynnwys, lefelau uchel o nicotin.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio adnodd gwybodaeth a chanllawiau ar fêpio i ddysgwyr oedran ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae'r ddogfen yn darparu data a gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ysgolion gan gynnwys sut y gallant ymateb i fêpio a mynd i'r afael ag ef yn eu lleoliad drwy bolisi, arferion, a chynnwys y cwricwlwm. 

Negeseuon Allweddol

  • Nid yw'r mwyafrif helaeth o blant a phobl ifanc yn ysmygu.
  • Ystyrir e-sigaréts yn llawer llai niweidiol na thybaco, ond nid ydynt yn ddiberygl.
  • Yn ôl adroddiadau mae effeithiau tymor byr yn cynnwys peswch, pendro, dolur gwddf a chur pen, ac nid ydym yn gwybod beth yw’r effeithiau hirdymor eto.
  • Mae cyfyngiad oed ar e-sigaréts a chynhyrchion tebyg sy'n cynnwys nicotin ac mae'n anghyfreithlon eu gwerthu i blant a phobl ifanc sy’n iau na 18 oed.
  • Mae e-sigarets y gellir ei defnyddio untro yn unig yn niweidio'r amgylchedd. Mae llawer ohonynt yn anodd i’w hailgylchu ac felly’n cyrraedd safleoedd tirlenwi, lle maent yn torri i lawr ac yn rhyddhau cemegau peryglus.
  • Y neges gyffredinol i blant a phobl ifanc yw: Peidiwch â dechrau “fêpio”.
Rhannu:
Cyswllt: