Gallwch wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth (SAR) i drefnu i weld neu gael copïau o'ch cofnodion meddygol, neu gofnodion personél os ydych chi ar hyn o bryd, neu os ydych chi wedi cael eich cyflogi gan y bwrdd iechyd yn y gorffennol.
Gallwch hefyd wneud cais am gofnodion meddygol aelod o'r teulu gyda'u cydsyniad neu drwy ddarparu'r ddogfennaeth briodol sydd ei hangen pan nad oes modd darparu cydsyniad.
I wneud cais gallwch ddefnyddio un o'r ffurflenni isod.
Danfonwch y ffurflen gais a dogfennau adnabod at information.governance.powys@wales.nhs.uk
Mae cyfeiriad post hefyd ar gael ar y ffurflen os na allwch e-bostio’r cais.
Ar gyfer ceisiadau heddlu neu grwner, e-bostiwch information.governance.powys@wales.nhs.uk gyda’r ffurflen gais briodol.
Nodwch eich manylion cyswllt - rhowch eich cyfeiriad a'ch rhif ffôn neu'ch cyfeiriad e-bost rhag ofn bod angen cysylltu â chi i drafod eich cais ymhellach.
Cyflwynwch brawf o’ch hunaniaeth - rhowch brawf o'ch hunaniaeth pan fyddwch yn gwneud eich cais ysgrifenedig, megis copi o'ch pasbort, trwydded yrru, neu dystysgrif geni ynghyd â gwybodaeth berthnasol sy'n gallu cadarnhau eich cyfeiriad, er enghraifft bil cyfleustodau.
Byddwch yn benodol – helpwch ni nodi'r union wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Er enghraifft, a oes angen gwybodaeth arnoch ynglŷn â'ch cofnod iechyd neu eich cofnod fel staff y GIG? Oes angen copïau o gofnodion o wasanaeth penodol, clinigwr neu gyfyng amser? Hefyd, os yw'n bosibl, rhowch unrhyw rifau cyfeirio y gellir eu defnyddio, fel rhif eich claf neu rif staff.
Dangoswch brawf o berthynas – os yw'r wybodaeth ynglŷn â pherson arall, rhowch brawf o berthynas ac unrhyw gydsyniad angenrheidiol. Bydd angen i chi nodi hefyd pam eich bod angen y wybodaeth os yw'r person wedi marw.
Os yw eich cais am gopi o'ch cofnod iechyd/gwybodaeth bersonol yn unig, ni chodir ffi, fodd bynnag, os yw'r cais yn gofyn am ysgrifennu adroddiad neu ddehongliad o wybodaeth o fewn y cofnod, yna gellir codi ffi briodol.
Manylion Cyswllt:
information.governance.powys@wales.nhs.uk
01686 252140 / 01874 442071