Neidio i'r prif gynnwy

Hwyliau a Bwyd

Hyd: 8 sesiwn; rhedeg yn wythnosol; 90 munud y sesiwn
 
Nid tanwydd yn unig yw bwyd - mae'n gwasanaethu llawer o wahanol rolau. Gallwn ddarganfod ein bod yn dod i’r arfer o ddefnyddio bwyd i gysuro neu i dynnu ein sylw ein hunain oddi wrth feddyliau a theimladau anghyfforddus neu fel ffordd o ymdopi â heriau gwahanol mewn bywyd. Weithiau gall deimlo nad oes gennym unrhyw reolaeth dros beth, pryd a sut rydym yn bwyta - a gall hyn rwystro rheoli pwysau.

 

Mae’r grŵp hwn, dan arweiniad seicolegydd, yn edrych ar y berthynas gymhleth rhwng bwyd ac emosiwn ac yn darparu rhai ffyrdd o reoli meddyliau a theimladau’n wahanol, er mwyn rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i chi.

 

Mae'r ffocws ar reoli emosiwn mewn perthynas â bwyd. Os oes angen strwythur arnoch ar gyfer gwneud newidiadau i'ch bwyd, gwybodaeth am faethiad neu wella symudiad yna efallai y bydd angen i chi edrych ar ein grwpiau eraill.
Rhannu:
Cyswllt: