Pwy mae'r IAS yn eu cefnogi?
Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI) yn rhoi cymorth i unigolion 18 oed a hŷn. Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cael ei westeio ar y cyd rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda chysylltiadau cryf ag addysg. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu tîm â gwybodaeth ac arbenigedd eang er mwyn diwallu’ch anghenion a’ch cefnogi’n briodol. Mae'r GAI yn darparu gwasanaethau asesu, diagnosis a chymorth Awtistiaeth i bobl 18 oed a hŷn.
Oriau agor
Mae gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig oriau gweithredu craidd o 9:00yb tan 4:30yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Sut i gael mynediad i'r gwasanaeth
Mae yna nifer o ffyrdd i gael mynediad i’r Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig, ac mae’r rhain yn cynnwys:
Beth i'w ddisgwyl
Mae’r IAS yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys (ymhlith eraill):
Mae’r GAI hefyd yn rhedeg sesiynau galw heibio rheolaidd, yn rhithwir. Mae’r sesiynau hyn yn agored i unrhyw un (18 oed neu hŷn) i drafod unrhyw gwestiynau a allai fod gennych chi ynglŷn ag awtistiaeth.
Mae’r Tîm yn croesawu oedolion, gofalwyr, rhieni plant ag awtistiaeth a gweithwyr proffesiynol a allai fod â chwestiynau i’w gofyn. Cysylltwch â’r GAI ar y manylion isod i gael gwybodaeth am y sesiynau sydd ar y gweill.
Ein Tîm
Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn wasanaeth ar draws Powys gyfan, sy’n golygu bod y tîm yn cwmpasu sir gyfan Powys. Mae aelodau’r tîm wedi’u lleoli mewn nifer o wahanol leoliadau ledled Powys, felly manylion cyswllt canolog y gwasanaeth ydy:
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Powys
Ward Erwyd
Ysbyty Bronllys
Bronllys
LD3 0LY
Ffôn: 01874 712 607
E-bost: Powys.IAS@wales.nhs.uk
Dolenni Defnyddiol
Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.