Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis

Model o sgerbwd gyda darlun meddygol cywir o gyhyrau llawr y pelfis yn unig, gyda chefndir glas
Beth yw gwasanaeth Iechyd y Pelfis a beth sydd ganddo i'w gynnig

Mae Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis yn cynnig asesiadau arbenigol o broblemau’r bledren neu’r coluddyn, neu boen yn y pelfis i fenywod, dynion, unigolion trawsryweddol, unigolion anneuaidd neu gleifion o unrhyw adnabyddiaeth arall.

Bydd hwn yn cynnwys sgwrs am eich problemau iechyd y pelfis.

Mae canllawiau cenedlaethol yn awgrymu addysg ar sut i ofalu am gyhyrau llawr eich pelfis, a sut a phryd i geisio cymorth. Gall ymweld â Ffisiotherapydd Iechyd y Pelfis eich helpu deall hwn yn well. Argymhellir gweithgareddau megis Ioga neu Pilates hefyd fel rhan o’ch cynllun triniaeth.

 

Dyma rai o gyflyrau mae’r gwasanaeth yn eu trin:
  • Cyflyrau’r bledren a / neu’r coluddyn
  • Prolaps ysgafn i gymedrol / Procidentia
  • Trawma'r Perinëwm (rhwyg ar ôl geni babi)
  • Adsefydlu’r Rectus Abdominis (gwahanu o’r bol ar ôl geni babi)
  • Poen cyhyrysgerbydol yn gysylltiedig â beichiogrwydd, er enghraifft Poen yng Ngwregys y Pelfis / cymorth / addysg cynenedigol
  • Poen yn y Pelfis e.e. poen o feinwe creithiau'r perinëwm / Endometriosis / poen wrth gael rhyw
  • Symptomau Menopos
  • Adsefydlu ar ôl llawdriniaeth gynaecoleg
  • Adsefydlu ar ôl toriad Cesaraidd

 

Dyma rai o driniaethau mae’r gwasanaeth yn eu cynnig:
  • Asesiad manwl o lawr eich pelfis ac asesiad cyhyrysgerbydol allanol
  • Addysg ar sut mae llawr eich pelfis yn gweithio
  • Cyngor ac addysg ar eich ffordd o fyw
  • Ymarferion llawr y pelfis
  • Ymarferion cryfhau eich craidd yn seiliedig ar pilates
  • Ail-hyfforddi eich pledren a’ch coluddyn
  • Triniaeth fewnol ac allanol ar y meinwe feddal

 

 

Lleoliadau'r gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth wedi’i leoli safleoedd canlynol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

  • Ysbyty Coffa Victoria, Y Trallwng
  • Uned Adsefydlu’r Drenewydd, sy’n gyfagos i Glafdy Sirol Maldwyn (Ysbyty’r Drenewydd), Y Drenewydd
  • Canolfan Iechyd a Gofal Glan Irfon, Llanfair-ym-Muallt
  • Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog, Aberhonddu
  • Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais, Ystradgynlais
 
Strwythur y Tîm

Mae’r gwasanaeth dan arweiniad Pennaeth Proffesiynol Ffisiotherapi.

Mae dau Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol Iechyd y Pelfis ym Mhowys.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei gefnogi gan staff gweinyddol lleol.

 

Beth ddylech chi ddisgwyl yn ystod apwyntiadau?

Bydd eich apwyntiad Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis cychwynnol yn cynnwys trafodaeth am eich pryderon ynglŷn ag iechyd eich pelfis. Byddwn yn cynnig y dewis i chi gael arsylwad gwain / ano-rectwm i weld sut mae cyhyrau llawr eich pelfis yn gweithio.

Gwisgwch ddillad cyfforddus i allu dadwisgo / gwisgo eto'n rhwydd, os oes angen.

Yn dilyn asesiad, byddwch yn trafod eich opsiynau triniaeth a byddwch yn cytuno ar nodau fel rhan o’ch cynllun triniaeth Ffisiotherapi.

 

 

Hawl am hebryngwr

Mae gennych yr hawl i ofyn am hebryngwr, neu efallai y bydd eich darparwr gofal iechyd yn gofyn am hebryngwr ffurfiol yn ystod y driniaeth. Mae croeso i aelod o'r teulu / perthynas weithredu fel hebryngwr anffurfiol ond efallai y bydd hefyd angen cael hebryngwr ffurfiol hefyd gan rywun sydd wedi'i hyfforddi yn y maes. Mewn achosion lle gofynnwyd am hebryngwr ond nad yw ar gael, efallai y bydd angen i ni ail-drefnu eich archwiliad tan fydd hebryngwr ar gael.

Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os oes angen hebryngwr arnoch ar gyfer unrhyw archwiliadau personol.

 

Meini prawf a ffurflenni atgyfeirio

Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn hunanatgyfeirio at y gwasanaeth, gan ddefnyddio'r ffurflen ddigidol yn y ddolen ganlynol:

Ffurflen hunanatgyfeirio ddigidol - Gwasanaeth Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis

 

Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau canlynol, dylech gysylltu â’ch Meddyg Teulu am fwy o gyngor:

  • Gwaedu o’r wain annisgwyl
  • Poen parhaus yn y pelfis, nad yw’n lleddfu

 

Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau canlynol, ochr yn ochr â phoen yn y cefn, ewch i Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys (A&E) ar unwaith:

  • Teimlad gogleisiog / dideimladrwydd (paraesthesia) newydd yn yr ardal rhwng eich coesau (ardal y gyfrwy)
  • Colled newydd a sydyn wrth reoli eich wrin / ysgarthion

Ehangwch yr adran ganlynol 'Syndrom Cauda Equina – rhybuddion risg’, am arweiniad pellach ar bryd i geisio cymorth ar unwaith:

 

Adnoddau cyngor a chymorth

Cliciwch ar yr adrannau canlynol i ddarllen mwy o wybodaeth:

 

Manylion cyswllt y gwasanaeth

Os ydych newydd gael eich cyfeirio at y gwasanaeth, neu os ydych newydd hunangyfeirio gallwch gysylltu â Chanolfan Therapïau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn:

Cyfeiriad e-bost: therapies.hub.pow@wales.nhs.uk

Rhif ffôn: 0845 840 1234  neu  01686 613 200

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Therapïau
Clafdy Sirol Maldwyn (Ysbyty’r Drenewydd)
Heol Llanfair
Y Drenewydd
Powys
SY16 2DW

 

Gall cleifion cyfredol Gwasanaeth Iechyd y Pelfis BIAP gysylltu â’u gwasanaeth Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis lleol/cyfredol, am apwyntiad dilynol a chyfathrebiadau, gan ddefnyddio’r rhifau ffôn canlynol:

  • Ysbyty Coffa Victoria, Y Trallwng - Adran Ffisiotherapi:  01938 558930
  • Clafdy Sirol Maldwyn (Ysbyty’r Drenewydd), Y Drenewydd - Adran Ffisiotherapi:  01686 617207
  • Canolfan Iechyd a Gofal Glan Irfon, Llanfair-ym-Muallt – Desg Flaen:  01686 252134
  • Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog, Aberhonddu - Adran Ffisiotherapi:  01874 615716
  • Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais, Ystradgynlais - Adran Ffisiotherapi:  01639 846442

 

Adborth y claf ar y gwasanaeth

Rydym yn croesawu eich adborth ar unrhyw adeg am eich profiad fel claf o'r gwasanaeth Iechyd y Pelfis. Mae croeso i chi ddanfon unrhyw adborth i’r cyfeiriad e-bost hwn:

Powys.PelvicHealthPhysio@wales.nhs.uk

Rhannu:
Cyswllt: