Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol: Iechyd Meddwl Oedolion Cleifion Mewnol

Dau bâr o ddwylo yn dal cynrychiolaeth o ben person allan o bren yn ysgafn, sydd â chynrychiolaeth ymennydd siâp calon arno. Mae
Sut mae Therapi Galwedigaethol yn cael ei ddarparu fel rhan o wasanaeth Iechyd Meddwl Oedolion Cleifion Mewnol a’r hyn y mae’n ei gynnig

Mae pobl sydd â salwch meddwl difrifol yn aml yn datgysylltu oddi wrth weithgareddau bywyd bob dydd ac efallai y byddant yn colli eu cymhelliant neu eu teimlad o hunaniaeth. Gall hyn gael effaith fawr ar eu gallu i wella o'u salwch ac ar eu bywyd cymdeithasol ehangach.

Gall therapi galwedigaethol helpu pobl sy'n profi salwch meddwl i gael mewnwelediad i effaith eu salwch a dechrau mynd i'r afael â hynny. Mae gweithgarwch corfforol, amser mewn natur a gweithgareddau cymdeithasol i gyd yn ffyrdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth o leihau gorbryder a gwella hwyliau. Mae offer Therapi Galwedigaethol yn helpu'r claf a'i weithwyr iechyd meddwl i ddeall y person fel unigolyn. Mae hyn yn helpu'r claf i ddod o hyd i ffyrdd o ail-ymgysylltu â gweithgareddau sy'n bwysig iddynt, yn ogystal ag adeiladu arferion adeiladol eto.

Mae Ward Felindre yn uned cleifion mewnol iechyd meddwl acíwt wedi’i lleoli yn Ysbyty Bronllys. Mae’r ward yn cynnig asesiadau, gofal a thriniaeth i oedolion gyda salwch meddwl difrifol ni ellir ei reoli yn y gymuned.  Ar y ward, mae amryw o weithwyr proffesiynol yn gweithio gyda’r Tîm Amlddisgyblaethol (TA). Mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn cynnwys:

  • Nyrsys Iechyd Meddwl
  • Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
  • Meddygon Arbenigol
  • Seicaiatryddion
  • Therapydd Galwedigaethol
  • Cydlynydd Gweithgareddau
  • Cysylltydd Cleifion Mewnol
  • Fferyllydd

Bydd y gweithwyr proffesiynol hyn yn gweithio gyda chi i helpu cefnogi eich adferiad a'ch cefnogi yn ôl i'r gymuned.

 

Lleoliadau'r gwasanaeth

Gweler y ddolen ganlynol i'r 'Gwasanaethau Iechyd Meddwl: Tudalen we ‘Derbyn i’r Ysbyty’ ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP), am y wybodaeth hon:

Gwasanaethau Iechyd Meddwl: Derbyn i'r Ysbyty - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

 

 

Sut i gyrchu’r gwasanaeth?
+ Yn ogystal â chyngor ar feini prawf cyfeirio i Weithwyr Iechyd Proffesiynol

Gweler y ddolen ganlynol i'r 'Gwasanaethau Iechyd Meddwl: Tudalen we ‘Derbyn i’r Ysbyty’ ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP), am y wybodaeth hon:

Gwasanaethau Iechyd Meddwl: Derbyn i'r Ysbyty - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Yn ogystal, sylwch mai dim ond cleifion mewnol ar y ward y mae'r Therapydd Galwedigaethol (ThG) Cleifion Mewnol yn ei weld, felly ni dderbynnir atgyfeiriadau yn uniongyrchol. Mae cleifion ar y ward yn cael eu hadolygu'n wythnosol gan Dîm Amlddisgyblaethol (TA) sy'n cynnwys Therapydd Galwedigaethol.

 

Beth ddylai cleifion ei ddisgwyl wrth ryngweithio â'r gwasanaeth

Mae Ward Felindre yn uned cleifion mewnol iechyd meddwl acíwt gyda 16 gwely i oedolion cymysg rhyw, 18-65 oed o Bowys. Mae yna hefyd ddau wely argyfwng i'w defnyddio y tu allan i oriau 9yb-5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gellir derbyn cleifion yn wirfoddol neu eu cadw’n ffurfiol dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Oherwydd hyn, efallai na fydd gennych unrhyw eiddo gyda chi, ond ar ôl cael eich derbyn darperir pecyn croeso sydd â thaflenni am y ward, ochr yn ochr â nwyddau ymolchi. Yna bydd staff yn eich cefnogi i gael unrhyw eiddo sydd ei angen.

Ar y ward mae yna nifer o weithwyr proffesiynol yn gweithio gyda chi i helpu cefnogi eich adferiad a'ch cefnogi yn ôl i'r gymuned. Mae hyn yn cynnwys Therapydd Galwedigaethol a Gweithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol.

Bydd y Therapydd Galwedigaethol (ThG) yn canolbwyntio ar sut mae eich salwch iechyd meddwl yn effeithio ar eich sgiliau a'ch hyder i wneud gweithgareddau bywyd bob dydd. Trwy asesiadau gall ThG adolygu sut rydych chi’n rheoli eich gweithgareddau bywyd beunyddiol ar hyn o bryd. Byddant wedyn yn gweithio gyda chi i ddarganfod beth sy'n bwysig i chi. Yna gwneir nodau ac ymyriadau cydweithredol, sy'n helpu mynd i'r afael ag unrhyw anawsterau a brofir yn unrhyw un o'r rolau a'r gweithgareddau bywyd beunyddiol.

Mae grwpiau yn cael eu cynnig bob dydd, a ddarperir gan staff ward, y mae croeso i bob claf ac fe'u hanogir i fynychu.

 

 

Pa fathau o driniaethau sydd ar gael?

Bydd therapyddion galwedigaethol yn eich helpu gosod nodau a byddant yn egluro sut y gallwch weithio tuag at y nodau hynny. Gall hyn gynnwys creu cynllun gyda'ch gilydd o'r gwaith a fydd yn cael ei gwblhau dros gyfnod penodol o amser. Yna bydd eich ThG neu Weithiwr Cymorth o'r tîm yn gwneud gwaith tuag at y nodau gyda chi.

Canolbwynt yr ymyriadau yw eich helpu chi gyrraedd eich nodau a allai gynnwys: cyllidebu, cynllunwyr dyddiol, coginio, a chymorth gyda thasgau domestig.

Os bydd angen gwasanaethau eraill, yna efallai y cewch eich atgyfeirio ymlaen iddyn nhw. Gall hyn fod un neu fwy o’r canlynol er enghraifft:

  • Y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)
  • Grwpiau dan arweiniad elusen ‘Mind’
  • Grwpiau cymunedol neu weithgareddau a drefnir trwy Gysylltydd Cymunedol o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO)
  • Y gwasanaeth Seicoleg ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP)
  • Y gwasanaeth SilverCloud ar-lein sy'n darparu technegau Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) i gefnogi eich Iechyd Meddwl a'ch Lles
  • Neu sesiynau iechyd meddwl perthnasol eraill gyda'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS).

Os oes gennych unrhyw broblemau iechyd corfforol, efallai y bydd eich ThG yn gallu helpu trefnu atgyfeiriadau priodol at wasanaethau i gael cymorth. Neu, efallai y byddant yn gallu presgripsiynu offer i wneud tasgau yn haws, os oes gennych anabledd corfforol hirdymor.

 

Adnoddau cyngor a chymorth

 

 

Cysylltu â’r gwasanaeth

Gweler y ddolen ganlynol i'r 'Gwasanaethau Iechyd Meddwl: Tudalen we ‘Derbyn i’r Ysbyty’ ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP), am y wybodaeth hon:

Gwasanaethau Iechyd Meddwl: Derbyn i'r Ysbyty - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Yn ogystal, gellir cysylltu â’r swyddfa ThG ar Ward Felindre yn Ysbyty Bronllys dros y ffôn yn: 01874 712468

 

Cwrdd â’r tîm

Mae'r tîm Therapi Galwedigaethol ar y ward yn cynnwys un Therapydd Galwedigaethol (ThG) llawn amser ac un Gweithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol llawn amser (GCThG). Mae gennym hefyd Gydlynydd Gweithgareddau rhan-amser yr ydym yn gweithio'n agos ag ef.

 

Adborth y Claf

Rydym yn croesawu unrhyw adborth a allai fod gennych am eich profiad gyda chymorth Therapi Galwedigaethol Iechyd Meddwl yn Ward Felindre (Ysbyty Bronllys) ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP).

Gallwch gael mynediad at ein harolwg adborth trwy glicio ar y ddolen ganlynol. Fel arall, gallwch sganio'r ddelwedd cod QR cysylltiedig isod gyda ffôn clyfar / dyfais arall os ydych chi am gwblhau'r arolwg trwy ddyfais wahanol. Bydd hyn yn mynd â chi i'r un lleoliad tudalen we â'r ddolen.

 

Adborth Cleifion - Therapi Galwedigaethol o fewn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT) ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

 

Yn ogystal, darperir holiadur i gleifion ar y ward i'w gwblhau ar ôl eu rhyddhau. O fewn hyn gallant roi adborth ar eu gofal sy'n gysylltiedig â Therapi Galwedigaethol os ydynt yn dymuno.

Os hoffech roi adborth i Dîm Ward ehangach ar Felindre (nid dim ond o ran cymorth Therapi Galwedigaethol), gweler y ddolen ganlynol i dudalen we 'Gwasanaethau Iechyd Meddwl: Derbyn i'r Ysbyty' ar wefan BIAP, am wybodaeth:

Gwasanaethau Iechyd Meddwl: Derbyn i'r Ysbyty - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Rhannu:
Cyswllt: