Os ydych chi’n cael trafferth â’ch iechyd meddwl, ac yn dioddef o salwch meddwl sy’n ddifrifol a’i bod yn angenrheidiol ichi gael triniaeth yn yr ysbyty, gallech chi gael eich derbyn i un o’n pedair ward iechyd meddwl.
Os ydych chi wedi cael eich derbyn i’r ysbyty, gallai fod oherwydd bod gennych chi salwch meddwl difrifol a bod angen ichi aros yn yr ysbyty er eich iechyd a’ch diogelwch, ac/ neu i amddiffyn pobl eraill.
Pan gewch chi’ch derbyn i’n Wardiau Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl gallwch chi ddisgwyl cael cefnogaeth Tîm Amlddisgyblaeth dan arweiniad Seiciatrydd, Nyrsys Seiciatrig, Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, Therapyddion Galwedigaethol ac efallai y byddwch chi hefyd yn derbyn mewnbwn gan staff Seicoleg, Triniaeth yn y Cartref a Fferylliaeth.
Bydd cleifion yn cael eu derbyn i’r ysbyty drwy atgyfeiriad yn unig. Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, yr Heddlu, Timau Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng, Meddygon Teulu, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a chydweithwyr yn y gwasanaethau cymdeithasol sy’n gweithio ym maes Iechyd Meddwl yn gallu atgyfeirio.
Mae ein wardiau cleifion mewnol ar agor 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.
Yma ym Mhowys, mae gennym ni un uned dderbyn i oedolion 18 – 64 oed yn Ysbyty Bronllys o’r enw Ward Felindre, a thair Uned Dderbyn Iechyd Meddwl Pobl Hŷn ledled y sir; Ward Tawe yn Ysbyty Ystradgynlais, Ward Crug yn Ysbyty Aberhonddu ac Ward Clywedog yn Ysbyty Llandrindod.
Dyma’u manylion:
Ward Felindre
Ysbyty Bronllys
Bronllys
Powys
LD3 0LU
Ffôn: 01874 712 478
Ward Tawe
Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais
Heol Glanrhyd
Ystradgynlais
Abertawe
SA9 1AU
Ffôn: 01639 846 438
Ward Crug
Ysbyty Coffa Rhyfel Brycheiniog
Heol Cerrigcochion
Aberhonddu
Powys
LD3 7NS
Ffôn: 01874 615 711
Ward Clywedog
Ysbyty Coffa Rhyfel Llandrindod
Stryd y Deml
Llandrindod
LD1 5HF
Ffôn: 01597 828705