Neidio i'r prif gynnwy

Eich Tîm Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng (CRHTT) Lleol

Mannequin ar y ddaear tra bod dau arall yn posio fel eu bod yn ei helpu i godi i fyny

Pwy mae Timau Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwn yn eu cefnogi?

Yma ym Mhowys mae gennym ni ddau Dîm Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng (CRHTT) sy’n darparu ymateb cyflym ac asesiad i bobl sy’n dioddef argyfwng iechyd meddwl gartref neu yn y gymuned.

Mae ein gwasanaeth ar gyfer oedolion rhwng 18 a 65 oed ag arwyddion o argyfwng seiciatrig acíwt mor ddifrifol fel eu bod mewn perygl o gael eu derbyn i ward iechyd meddwl os na fyddan nhw’n cael sylw CRHTT. Gall y CRHTT hefyd gefnogi pobl dros 65 oed os bernir bod ganddyn nhw ddiagnosis o salwch meddwl o ran ffitrwydd swyddogaethol.

 

Beth mae "ffitrwydd swyddogaethol" yn ei olygu?

Mae’r term salwch meddwl ‘swyddogaethol’ yn derm clinigol sy’n berthnasol i anhwylderau meddyliol ar wahân i dementia, ac mae’n cynnwys salwch meddwl difrifol fel sgitsoffrenia ac anhwylder hwyliau deubegynol. Yn aml, mae symptomau’r anhwylderau hyn yn parhau wrth i rywun heneiddio neu, yn llai aml, yn dechrau yn ystod henaint. [1]

 

Oriau agor

Mae gan ein Timau Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng oriau gweithredu craidd o 9am tan 9pm, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.

 

Sut i gael mynediaid i'r gwasanaeth

Mae mynediad i’r gwasanaeth drwy atgyfeiriad yn unig. Gall Timau Ysbytai Iechyd Meddwl, Timau Cyswllt Seiciatryddol, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, gwasanaethau Meddygon Teulu y tu allan i oriau, yr Heddlu a staff Ambiwlans wneud atgyfeiriadau.

 

Beth i'w ddisgwyl

Mae ein Timau Argyfwng yn darparu gwasanaeth triniaeth ddwys a diogel yn y cartref yn y ffordd leiaf cyfyngol. Eu nod ydy tarfu cyn lleied â phosibl ar fywyd unigolyn a diwallu ei anghenion yng nghyfnod cynnar arwyddion o gyflwr seiciatryddol acíwt. Fel rheol, caiff ymyriadau eu gwneud drwy ymweliadau cartref rheolaidd a chyswllt dros y ffôn. Mae ymyriadau yn rhai tymor byr ac nid ydyn nhw fel rheol yn para mwy na 6 wythnos.

Gall ein Timau Argyfwng wneud atgyfeiriadau lle bo angen i’n wardiau iechyd meddwl i gleifion mewnol os byddai unigolion yn elwa o arhosiad mewn ysbyty. Gall ein Timau Argyfwng hefyd atgyfeirio unigolion i wasanaethau eraill fel Seicoleg, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol, y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a llawer mwy.

 

Ein Timau

Tîm Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng De Powys
Ward Defynnog
Ysbyty Bronllys
Bronllys
LD3 0LU

 

Tîm Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng Gogledd Powys
Uned Fan Gorau
Ysbyty’r Drenewydd
Ffordd Llanfair
Y Drenewydd
Powys
SY16 2DW

 

Gwasanaeth iechyd meddwl y tu allan i oriau

Mae gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (18+) nifer o rotâu ar alwad sy’n darparu gwasanaeth y tu allan i oriau. Mae’r rhain yn cynnwys rota Seiciatrydd ar alwad yng Ngogledd Powys, rota Seiciatrydd ar alwad yn Ne Powys a rota Rheolwr Iechyd Meddwl ar alwad. Mae’r tair rota ar waith y tu allan i oriau swyddfa a phenwythnosau, 365 diwrnod y flwyddyn.

 

[1] https://oxfordmedicine.com, Awst 2020

Rhannu:
Cyswllt: