Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Partneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl 'Byw'n dda'

Dyn yn gorchuddio blodau bach yn yr ardd gyda golau

Beth yw’r Bwrdd Partneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl ‘Byw’n dda’?

Mae’r Bartneriaeth Iechyd Meddwl yn gyfrifol am roi agweddau o Fwrdd partneriaeth ranbarthol ar waith fel rhan o agenda ‘Byw’n dda’. Cafodd ei sefydlu fel rhan o Strategaeth Iechyd a Gofal Powys i gryfhau a thrawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl a lles, ond hefyd sicrhau bod gwasanaethau’n datblygu er mwyn cwrdd â gofynion deddfwriaeth iechyd meddwl. 

Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a lles yng Nghymru. Cyhoeddwyd yn Hydref 2012, (yn dilyn ymgysylltiad sylweddol ac ymgynghoriad ffurfiol gydag asiantaethau partner, rhanddeiliaid, defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr allweddol) mae’n strategaeth gan sawl wedd Llywodraethol ar gyfer pob oedran. Mae’n cynnwys ystod o weithredoedd, o’r rhai wedi’i gynllunio i wella lles iechyd meddwl trigolion Cymru, i’r rhai sy’n cefnogi’r bobl sydd gydag ac yn profi salwch meddwl.

Mae’r gweithredoedd a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu yn gofyn am ddull trawsbynciol sy’n cael ei roi ar waith ar y cyd gan bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector a’r sector annibynnol, addysg, iechyd cyhoeddus Cymru, heddlu, gwasanaeth tân, ambiwlans ac eraill.

Goruchwyliwyd y Cynllun Gweithredu gan y Bwrdd Partneriaid Rhanbarthol, yn ogystal mae disgwyl i bob un ardal leol sefydlu Bwrdd Partneriaid Lleol i fonitro’n datblygiad. Ym Mhowys, yr enw ar y Bwrdd Rhanbarthol Lleol yw Bwrdd Partneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl ‘Byw’n dda’.

 

Beth mae’r Bartneriaeth yn ei gwneud?

  • Mae’r Bartneriaeth yn gyfrifol am gefnogi ac adolygu’r broses o roi Cynllun Gwaith Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ar waith, gan gynnwys Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. 
  • Mae gofyn i’r Bartneriaeth adrodd i Lywodraeth Cymru’n aml am Gynllun Gwaith Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
  • Ym mis Tachwedd bob blwyddyn, mae disgwyl i’r Bartneriaeth gyhoeddi adroddiad i’r cyhoedd sy’n dangos datblygiad lleol yn nodau'r Cynllun Gweithredu. Cyd-gyhoeddwyd yr adroddiad hwn, sy’n grynodeb o ddatblygiad, gan ddefnyddwyr y gwasanaeth a chynrychiolaeth gofalwyr.
  • Mae’r ddogfen hefyd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
  • Mae’r Bartneriaeth hefyd yn adolygu’r broses o gynlluniau penodol o fewn y Cynllun Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, er enghraifft Cynllun Gweithredu Siarad â Fi 2.
  • Mae’r Bartneriaeth yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiad â thargedu sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Gweithredu, gan gynnwys Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
  • Mae’r Bartneriaeth yn ystyried goblygiadau ar gyfer dylunio a datblygu’r gwasanaeth trwy ddefnyddio adolygiad ymchwilwyr allweddol, arolygiadau a mecanweithiau adborth defnyddwyr.
  • Mae’r Bartneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl yn cynnwys bob oedran ac mae ganddi ffocws strategol ar gynllunio amlasiantaethol; perfformiad; cydymffurfiad; ac adborth gan bobl, rhieni a gofalwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

 

Aelodaeth

Mae aelodaeth o’r Bartneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl yn ystyried y cynllun a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod aelodaeth yn adlewyrchu’r rhai sy’n rhoi’r Cynllun Gwaith ar waith. Mae ganddi arweinyddiaeth gan rai ar lefel y Bwrdd.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys yn ‘bartneriaid iechyd meddwl lleol’ dan y Mesur ac yn cadeirio’r grŵp.

Ymysg y sefydliadau sy’n creu’r Bartneriaeth mae:

  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Cyngor Sir Powys
  • Cynrychiolwyr defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr
  • Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO)
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Heddlu Dyfed Powys
  • Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth A Gorllewin Cymru
  • Cyngor Iechyd Cymuned Powys
  • Eiriolaeth Tros Gynnal

Mae gwahoddiad i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Gwasanaethau Prawf dderbyn y papurau. 

 

Pa mor aml mae’r Bartneriaeth yn cwrdd?

Mae’r Bwrdd Partneriaeth yn cwrdd o leiaf 4 gwaith y flwyddyn.

 

Is-grwpiau

Er mwyn cadw llygad barcud ar y gweithredoedd, mae’r bartneriaeth yn cefnogi llawer o is-grwpiau;

  • Grŵp Swyddogion Iechyd Meddwl
  • Ymgysylltu i Newid
  • Ffrwd Gwaith Atal Hunanladdiad ac Hunan-niweidio
  • Fforwm Gofal Argyfwng

Mae’r grwpiau hyn yn gyfrifol am ddatblygu gwahanol rannau o’r Cynllun Gwaith Iechyd Meddwl. Maent hefyd yn darparu adroddiad ar uchafbwyntiau ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth bob chwarter.

 

Adroddiad Blynyddol

Mae Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth 2020-2021 ar gael yma:

 


Dolenni defnyddiol

Cynllun Gweithredu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl 2019 i 2022 | LLYW.CYMRU

Mesur Iechyd Meddwl (2010):

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: taflen | LLYW.CYMRU

Siarad â fi 2 – Strategaeth Atal Hunanladdiad ac Hunan-niweidio Cymru:

Strategaeth atal hunanladdiadau a hunan-niweidio 2015 i 2022 | LLYW.CYMRU

Matrics Cymru: Canllawiau ar gyfer Darparu Therapi yn seiliedig ar Dystiolaeth yng Nghymru: Matrics Cymru (CM design - DRAFT 15).pdf (wales.nhs.uk) 

Rhannu:
Cyswllt: