Neidio i'r prif gynnwy

Eich Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)

Dwylo benywaidd yn dal calon goch

Pwy mae LPMHSS yn eu cefnogi?

Mae Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol ar gael ym Mhowys ar gyfer pobl o bob oedran. Mae’r gwasanaethau hyn ar gyfer pobl sy’n dioddef â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, sefydlog, difrifol a pharhaus.

Mae’r LPMHSS yn wasanaeth nad yw’n ystyried oedran ac eithrio’r rheini dan 18 oed a fydd yn cael eu cyfeirio at eu Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) lleol.

 

Oriau agor

Mae gan y LPMHSS oriau gweithredu craidd o 9:00am tan 5:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Sut i gael mynediad i’r gwasanaeth

I gael mynediad i’r gwasanaethau hyn, bydd angen atgyfeiriad arnoch chi gan weithiwr iechyd proffesiynol fel eich Meddyg Teulu neu Ymarferydd Iechyd Meddwl.

I gael mynediad i’r gwasanaethau hyn, cysylltwch â’ch meddyg teulu. Os nad ydych chi wedi cofrestru â meddyg teulu, gallwch chi barhau i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn drwy ymweld ag unrhyw bractis meddyg teulu.

 

Beth i’w ddisgwyl

Mae’r LPMHSS yn darparu asesiadau iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar nodau a hefyd triniaeth drwy ymyriadau seicolegol tymor byr y gellir eu rhoi yn unigol neu mewn lleoliadau grŵp.

Mae’r LPMHSS hefyd yn rhoi cymorth a chyngor i Feddygon Teulu a gweithwyr gofal sylfaenol eraill ac i unigolion a’u gofalwyr am driniaeth a gofal, gan gynnwys yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw, yn ogystal â ‘chyfeirio’ at ffynonellau cymorth eraill (fel cymorth y mae sefydliadau’r trydydd sector yn eu darparu).

 

Ein Timau

LPMHSS Ystradgynlais

Ysbyty Ystradgynlais

Heol Glanrhyd

Ystradgynlais

Abertawe SA9 1AU

Ffôn: 01639 846 403

 

LPMHSS De Powys

Tŷ Cloc

Ysbyty Bronllys

Bronllys

LD30LU

Ffôn: 01874 712 525

 

LPMHSS Gogledd Powys

Fan Gorau

Ysbyty’r Drenewydd

Ffordd Llanfair

Y Drenewydd

SY16 2DW

Ffôn: 07779 548 447

Rhannu:
Cyswllt: