Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Eiriolaeth

Gweithiwr cymorth benywaidd yn egluro manylion meddygol i hen gwpl yn y cartref

Gwasanaethau Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol

Os ydych chi’n derbyn gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ym Mhowys (e.e. Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol neu Wasanaethau Tîm Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng) gallwch chi gael mynediad i Wasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Powys.

Bydd Eiriolwr Iechyd Meddwl Cymunedol:

  • Yn eich cynorthwyo i gael gafael ar wybodaeth
  • Yn eich helpu chi i ddeall polisïau a gweithdrefnau
  • Yn rhoi cefnogaeth ac yn eich cynrychioli â materion
  • Yn sicrhau bod eich llais yna cael ei glywed
  • Yn gwrthweithio anghyfartaledd a chamwahaniaethu
  • Yn eich trin â pharch ac yn deg
  • Yn gwrando ar eich pryderon
  • Yn eich cyfeirio at sefydliadau lleol a chenedlaethol am gymorth a chyngor

 

Gallwch chi gysylltu â'ch Eiriolwyr Iechyd Meddwl Cymunedol lleol gan ddefnyddio’r manylion a ganlyn:                  

Kirstie Morgan, Eiriolwr Iechyd Meddwl De Powys

Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR

Ffôn Symudol: 07967808145

E-bost: kirstie.morgan@wales.nhs.uk

 

Lynda Evans, Eiriolwyr Iechyd Meddwl Gogledd Powys ar gyfer pobl dan 65 oed

D/o Ysbyty’r Drenewydd, Ffordd Llanfair, Y Drenewydd, Powys SY16 2DW

Ffôn Symudol: 07736120924

E-bost: lynda.evans3@wales.nhs.uk

 

Linda Woodward, Eiriolwyr Iechyd Meddwl Gogledd Powys ar gyfer pobl dros 65 oed

D/o Ysbyty’r Drenewydd, Ffordd Llanfair, Y Drenewydd, Powys SY16 2DW

Ffôn Symudol: 07974935355

E-bost: linda.woodward2@wales.nhs.uk

 

Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol

Mae Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol neu IMHA yn eiriolwr hyfforddedig a phrofiadol. Maen nhw’n annibynnol, sy’n golygu eu bod nhw ar wahân i’ch timau meddygol a gofal cymdeithasol ac yn gweithio i sefydliad gwahanol.

Gallwch chi gael mynediad i’r gwasanaeth IMHA os ydych chi:

  • Yn glaf mewnol yn yr ysbyty ac yn cael eich asesu neu’n derbyn triniaeth ar gyfer problem iechyd meddwl tra byddwch chi yno
  • Wedi’ch cadw yn yr ysbyty dan y ddeddf iechyd meddwl
  • Wedi’ch cadw dan orchymyn tymor byr
  • Yn glaf anffurfiol
  • Yn destun Gorchymyn Triniaeth Gymunedol
  • Wedi’ch rhyddhau yn amodol neu dan warcheidiaeth

Gall IMHA eich helpu i:

  • Ddeall ac arfer eich hawliau 
  • Cael gafael ar wybodaeth
  • Deall ac archwilio opsiynau
  • Teimlo’ch bod yn cael eich gwerthfawrogi
  • Lleisio’ch barn
  • Paratoi ar gyfer rowndiau wardiau, apeliadau a chyfarfodydd a’u mynychu
  • Mynd i’r afael â chamwahaniaethu
  • Cyflwyno cwynion am eich gofal a’ch triniaeth
  • Gwneud penderfyniadau gwybodus am eich gofal a’ch triniaethau
  • Cael cefnogaeth a chynrychiolaeth.

 

Gellir cysylltu â’ch gwasanaeth IMHA lleol gan ddefnyddio’r manylion a ganlyn:

Ffôn: 01745 813 999

E-bost: admin@cadmhas.co.uk

Gwefan: www.cadmhas.com

 

Rhannu:
Cyswllt: