Neidio i'r prif gynnwy

SilverCloud – Cymorth Iechyd Meddwl Ar-lein

Beth yw rhaglenni SilverCloud®?

Os ydych chi’n teimlo dan straen, yn orbryderus neu’n isel, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae tua 1 ym mhob 4 oedolyn yn stryglo gyda heriau iechyd meddwl. Mae cymorth ar gael i chi.

Mae SilverCloud gan Amwell® yn wasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein am ddim sydd ar gael drwy GIG Cymru heb angen atgyfeiriad gan feddyg teulu. Trwy SilverCloud, gallwch ddefnyddio ystod o raglenni hunangymorth dan arweiniad i'ch helpu chi rheoli a gwella eich iechyd meddwl a'ch lles. Mae cefnogaeth ar gael ar gyfer gorbryder ysgafn-i-gymedrol, iselder, straen, anawsterau cysgu a mwy.

Mae pob rhaglen yn defnyddio technegau sy'n seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) sy'n gweithio drwy eich annog i herio'r ffordd rydych chi'n meddwl ac yn ymddwyn fel eich bod mewn sefyllfa well i ddelio â phroblemau bywyd.

Gallwch gofrestru ar-lein a dewis un o'r rhaglenni iechyd meddwl a lles ar-lein sy’n hawdd eu defnyddio, yn rhyngweithiol i'w cwblhau dros 12 wythnos. Er ei fod yn wasanaeth hunangymorth ar-lein, mae rhaglenni SilverCloud® yn cael eu cefnogi gan dîm o staff y GIG sydd wedi'u hyfforddi i ddarparu cymorth iechyd meddwl ar-lein. Ar ôl cofrestru, bydd 'Cefnogwr SilverCloud®' yn eich tywys drwy'r rhaglen, gan ddarparu adborth a chyngor ysgrifenedig bob pythefnos trwy neges ar-lein.

Mae SilverCloud wedi cael ei greu i siwtio eich bywyd chi! Gallwch gyrchu’ch rhaglen unrhyw le, unrhyw bryd o'ch ffôn symudol, llechen, cyfrifiadur neu liniadur.

Lawrlwythwch lawlyfr y rhaglen yma. (Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofyn am fformat gwahanol).

Cofrestrwch yma

 

 

 

Manylion cyswllt

I gael mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth, cysylltwch â:

silver.cloud@wales.nhs.uk

01874 712428

 

Rhannu:
Cyswllt: