Neidio i'r prif gynnwy

Eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT) Lleol

Triniaeth feddygol iechyd meddwl.

Pwy mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn eu cefnogi?

Mae’ch Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol yn darparu amrywiaeth o driniaethau a therapïau iechyd meddwl yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ac anhwylderau bwyta amenedigol i bobl sydd angen cymorth ar gyfer eu problemau iechyd meddwl.  Mae’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol wedi’u rhannu’n ddau dîm; y gwasanaeth i oedolion (ar gyfer pobl rhwng 18 a 64 oed) a’r gwasanaeth Pobl Hŷn (ar gyfer pobl 65 oed a hŷn).

 

Oriau agor

Mae gan Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol oriau gweithredu craidd o 9:00am tan 5:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Sut i gael mynediad i'r gwasanaeth

Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn derbyn atgyfeiriadau oddi wrth feddygon teulu, Wardiau Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol Acíwt ac oddi wrth ein Timau Iechyd Meddwl fel LPMHSS, Timau Argyfwng a CAMHS ar gyfer cleifion sy’n pontio.

Yr hawl i ailatgyfeirio

Os ydych chi wedi bod dan ofal Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol o’r blaen ac wedi cael eich rhyddhau o’r gwasanaeth o fewn y 3 blynedd diwethaf, gallwch chi ailatgyfeirio eich hun at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol dan Ran 3 o’r Mesur Iechyd Meddwl lle cewch eich asesu am gymorth a chefnogaeth.

I ailatgyfeirio eich hun, cysylltwch â’ch Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol a dweud yr hoffech chi “ailatgyfeirio dan Ran 3 o’r Mesur Iechyd Meddwl” a bydd y tîm yn cynnal asesiad clinigol o’ch anghenion iechyd meddwl i benderfynu a fyddech chi’n elwa o gymorth CMHT eto.

 

Beth i'w ddisgwyl

Os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol arnoch, siaradwch â’ch Meddyg Teulu i ofyn am atgyfeiriad. Bydd eich Meddyg Teulu’n asesu a yw hyn yn briodol i chi ac os ydyw, bydd yn eich atgyfeirio a bydd eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol wedyn yn gwneud asesiad trylwyr gyda chi i sicrhau eich bod chi’n cael eich cyfeirio at y gwasanaethau iawn.

Os bernir bod angen cymorth Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol arnoch chi, bydd y tîm yn creu cynllun gofal a thriniaeth gyda chi, i’ch cefnogi yn y ffordd orau bosibl.

 

Ein Timau

Mae gennym ni bum Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol i oedolion a phum Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol pobl hŷn ym Mhowys. Mae’r timau oedolion a phobl hŷn wedi’u cydleoli yn yr un adeiladau sef:

 

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Ystradgynlais

Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais
Heol Glanrhyd
Ystradgynlais
Abertawe
SA9 1AU

Ffôn: 01639 846 474

 

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Aberhonddu

Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl Tŷ Illtyd
Stryd y Bont
Aberhonddu
LD3 8AH

Ffôn: 01874 615 050

 

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Llandrindod

Canolfan yr Hazels
Stryd y Deml
Llandrindod
LD1 5HF

Ffôn: 01597 825 888

 

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol y Drenewydd

Uned Fan Gorau
Ysbyty’r Drenewydd
Ffordd Llanfair
Y Drenewydd
Powys
SY16 2DW

Ffôn: 01636 617 300

 

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol y Trallwng

Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl Bryntirion
Ffordd Salop
Y Trallwng
Powys
SY21 7YA

Ffôn: 01938 558 969

Rhannu:
Cyswllt: