Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol: Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC)

Delwedd cartŵn gysyniadol sy
 
Sut mae Therapi Galwedigaethol yn cael ei ddarparu fel rhan o wasanaeth Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) a’r hyn y mae’n ei gynnig

Mae pobl sydd â salwch meddwl difrifol yn aml yn datgysylltu oddi wrth weithgareddau bywyd bob dydd ac efallai y byddant yn colli eu cymhelliant neu eu teimlad o hunaniaeth. Gall hyn gael effaith fawr ar eu gallu i wella o'u salwch ac ar eu bywyd cymdeithasol ehangach.

Gall therapi galwedigaethol helpu pobl sy'n profi salwch meddwl i gael mewnwelediad i effaith eu salwch a dechrau mynd i'r afael â hynny. Mae gweithgarwch corfforol, amser mewn natur a gweithgareddau cymdeithasol i gyd yn ffyrdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth o leihau gorbryder a gwella hwyliau.

Mae offer Therapi Galwedigaethol yn helpu'r claf a'i weithwyr iechyd meddwl i ddeall y person fel unigolyn. Maent hefyd yn helpu'r person i ddod o hyd i ffyrdd o ail-ymgysylltu â gweithgareddau sy'n bwysig iddynt, yn ogystal ag adeiladu arferion adeiladol eto.

Mae'r Therapyddion Galwedigaethol ar gyfer yr arbenigedd hwn wedi'u lleoli yn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) ochr yn ochr ag aelodau eraill o'r tîm fel nyrsys iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymorth.

I rai pobl, y Therapydd Galwedigaethol (ThG) fydd y Cydgysylltydd Gofal. I eraill, gall y Cydgysylltydd Gofal fod yn aelod o dîm proffesiwn gwahanol, ond gall atgyfeirio at y ThG am asesiad. Gellir gweld mwy o wybodaeth am rôl Cydgysylltydd Gofal yn y ddolen sydd wedi'i chynnwys yn adran 'Beth ddylech chi ei ddisgwyl cyn, yn ystod ac ar ôl apwyntiadau?' ar y dudalen we hon.

 

Lleoliadau'r gwasanaeth

Gweler y ddolen ganlynol i dudalen we 'Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol' ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP), am y wybodaeth hon:

Eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Lleol (TIMC) - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

 

Sut y gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth

Mae'r Therapyddion Galwedigaethol ar gyfer yr arbenigedd hwn wedi'u lleoli yn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC), felly i gyrchu’r gwasanaeth ThG, mae angen i chi fod wedi cael eich cyfeirio at y TIMC. Gellir gweld manylion am sut i gyrchu'r gwasanaeth TIMC isod. Nid yw'r ThG yn gallu derbyn atgyfeiriadau yn uniongyrchol, na gweld unrhyw un nad yw'n cael ei atgyfeirio at y TIMC.

Fodd bynnag, os cewch eich cyfeirio at y TIMC ac os hoffech weld ThG, siaradwch â'ch Cydgysylltydd Gofal.

Gweler y ddolen ganlynol i dudalen we 'Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol' ar wefan BIAP, am y wybodaeth yn ymwneud â gwasanaeth y TIMC cyffredinol:

Eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Lleol (TIMC) - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Beth ddylech chi ei ddisgwyl cyn, yn ystod ac ar ôl apwyntiadau?

Byddwch yn cael eich atgyfeirio at Therapi Galwedigaethol oherwydd eich bod yn cael trafferth cwblhau gweithgareddau neu dasgau dyddiol arferol. Bydd eich Therapydd Galwedigaethol (ThG) yn cyflwyno eu hunain a'u rôl. Y sesiynau cyntaf fydd sesiynau "dod i'ch adnabod chi," lle bydd y ThG yn defnyddio asesiadau Therapi Galwedigaethol safonol i ddeall pa feysydd y mae angen i chi weithio arnynt.

Bydd yr apwyntiad fel arfer wyneb yn wyneb, naill ai yn eich cartref, yn y gymuned neu yn eich swyddfa Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol. Bydd yr apwyntiad yn cael ei drefnu gyda chi, dros y ffôn fel arfer, a bydd y ThG yn trefnu gyda chi ble a phryd y bydd yr apwyntiad yn digwydd. Efallai y bydd adegau pan fydd apwyntiadau'n digwydd dros y ffôn. Bydd hwn yn cael ei gytuno gyda chi a'r therapydd ar adegau lle gall cyfarfod wyneb yn wyneb fod yn anodd.

Gallwch gael copi o unrhyw asesiadau y mae eich ThG yn eu cwblhau gyda chi. Os mai eich Cydgysylltydd Gofal yw eich ThG, byddant hefyd yn cwblhau cynllun gofal a thriniaeth gyda chi i gadw golwg ar unrhyw feysydd lle mae angen cymorth arnoch. Gellir gweld mwy o wybodaeth am rôl Cydgysylltydd Gofal yn y ddolen ganlynol:

Mesur Iechyd Meddwl Cymru 2010 (gov.wales)

 

Yna bydd eich ThG yn eich helpu chi osod nodau ac egluro sut y gallwch weithio tuag atynt, gan greu cynllun gyda'ch gilydd o'r gwaith i'w gwblhau dros gyfnod o amser. Yna bydd eich ThG neu Weithiwr Cymorth o'r tîm yn gwneud gwaith tuag at y nodau gyda chi. Efallai y byddwch hefyd yn gweld Seiciatrydd yn y tîm, a fydd yn darparu cymorth a chyngor meddygol lle bo angen.

Os bydd angen gwasanaethau eraill, yna efallai y cewch eich atgyfeirio ymlaen iddyn nhw fel y mae angen. Gall hyn fod un neu fwy o’r canlynol er enghraifft:

  • Y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff
  • Grwpiau dan arweiniad elusennau iechyd meddwl
  • Grwpiau cymunedol neu weithgareddau a drefnir trwy Gysylltydd Cymunedol o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO)
  • Y gwasanaeth Seicoleg ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP)
  • Y gwasanaeth SilverCloud ar-lein sy'n darparu technegau Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)
  • Neu sesiynau iechyd meddwl perthnasol eraill gyda'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol.

Gellir dod o hyd i ddolenni i'r gwasanaethau hyn yn yr adran 'Adnoddau cyngor a chymorth' ar y dudalen hon.

Os oes gennych unrhyw broblemau iechyd corfforol, gall eich ThG eich cefnogi i gael yr atgyfeiriadau at y driniaeth briodol, neu bresgripsiynu eich offer os oes gennych anabledd corfforol hirdymor.

 

 

 
Adnoddau cyngor a chymorth

 

 

Cysylltu â’r gwasanaeth

Gweler y ddolen ganlynol i dudalen we 'Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol' ar wefan BIAP, am y wybodaeth hon:

Eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Lleol (TIMC) - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Cwrdd â’r tîm

Ar hyn o bryd mae'r tîm ThG o fewn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) yn cynnwys y rolau staff canlynol, wedi'u lleoli ar draws y lleoliadau gwasanaeth BIAP canlynol:

  • Ystradgynlais - ThG Arbenigol rhan amser a Chynorthwyydd ThG rhan amser
  • Aberhonddu - ThG Arbenigol Rhan Amser
  • Llandrindod - ThG Arbenigol Rhan Amser
  • Y Drenewydd / Y Trallwng - ThG Arbenigol Llawn Amser

 

Adborth y Claf

Rydym yn croesawu unrhyw adborth a allai fod gennych am eich profiad gyda ThG iechyd meddwl yn y TIMC ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP).

Gallwch gael mynediad at ein harolwg adborth trwy glicio ar y ddolen ganlynol. Fel arall, gallwch sganio'r ddelwedd cod QR cysylltiedig isod gyda ffôn clyfar / dyfais arall os ydych chi am gwblhau'r arolwg trwy ddyfais wahanol. Bydd hyn yn mynd â chi i'r un lleoliad tudalen we â'r ddolen.

 

Adborth Cleifion - Therapi Galwedigaethol o fewn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

 

 

Gweler y ddolen ganlynol i dudalen we 'Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol' ar wefan BIAP, am y wybodaeth ar rannu adborth i’r Tîm IMC ehangach:

 

Eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Lleol (TIMC) - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Rhannu:
Cyswllt: