Pwy mae CAMHS yn eu cefnogi?
Mae CAMHS Powys yn cynnig asesiad a thriniaeth i blant a phobl ifanc, hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed, sydd â phroblemau iechyd meddwl neu anawsterau iechyd emosiynol neu y credir bod ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl.
Tîm o weithwyr proffesiynol sydd â hyfforddiant arbenigol a phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n darparu’r gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys Seicolegwyr Clinigol, Seiciatryddion Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, arbenigwyr fforensig, Nyrsys Arbenigol, Gweithwyr Iechyd Meddwl Sylfaenol, Seicotherapyddion Plant a Chwnselwyr.
Mae gan y gwasanaeth hefyd Nyrs Arbenigol sy’n gweithio ar y cyd â’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, yn ogystal â seicolegydd yn y gwasanaeth Plant sydd ar gontract i weithio i CAMHS, y gwasanaethau fforensig a chyfiawnder ieuenctid am un diwrnod yr wythnos. Mae CAMHS a Chyngor Sir Powys yn gyfrifol ar y cyd am Seicolegydd Clinigol sy’n rhoi cyngor i weithwyr proffesiynol y Gwasanaethau Plant ar anghenion emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal neu ar gyrion gofal.
Oriau agor
Mae gan CAMHS oriau gweithredu craidd o 9:00am tan 5:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Sut i gael mynediad i’r gwasanaeth
Ar hyn o bryd, nid yw CAMHS yn derbyn hunangyfeirio, sy’n golygu bod angen ichi siarad â gweithiwr proffesiynol arall a gofyn a ydyn nhw’n credu bod angen atgyfeirio’ch plentyn neu’ch unigolyn ifanc at CAMHS.
Gall unrhyw weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc gysylltu â CAMHS drwy’r system Ddyletswydd sy’n gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9 a 5 o’r gloch ac sy’n cael ei staffio gan weithwyr arbenigol sy’n gallu cynnig cyngor / ymgynghoriad a hwyluso atgyfeirio i’r gwasanaeth.
Hefyd, gall y gweithwyr proffesiynol a ganlyn siarad â’r Gweithiwr Iechyd Meddwl Sylfaenol am blant a phobl ifanc y maen nhw’n pryderu amdanyn nhw.
Gweithwyr proffesiynol sy’n gallu trafod â’r Gweithiwr Iechyd Meddwl Sylfaenol:
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHS) yn cynnig cyfle i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc drafod eu pryderon a phenderfynu ar y ffordd orau i helpu’r plentyn neu’r person ifanc. Weithiau bydd hyn yn digwydd drwy weithio’n uniongyrchol â’r plentyn neu’r person ifanc ond gallai hefyd ddigwydd drwy gynnig hyfforddiant a/ neu gymorth i alluogi’r gweithiwr proffesiynol i wneud y gwaith ei hun.
Os nad ydy’r plentyn neu’r person ifanc yn gweithio’n uniongyrchol â’r gweithiwr Iechyd Meddwl Sylfaenol, nid yw’n cael ei ystyried yn ‘agored’ i CAMHS.
Ble mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu?
Mae’r gwasanaeth wedi’i leoli mewn dau brif safle gyda chlinigau ychwanegol yn cael eu cynnig mewn ardaloedd anghysbell.
CAMHS Gogledd Powys
Clinig Stryd y Parc
Stryd y Parc
Y Drenewydd
Powys
SY16 1EG
Ffôn: 01686 617401
CAMHS De Powys
Ysbyty Aberhonddu
Heol Cerrigcochion
Aberhonddu
Powys
LD3 7NS
Ffôn: 01874 615662
Pryd mae'r gwasanaeth ar gael a beth ddylwn i ei wneud y tu allan i’r oriau hyn?
Mae tîm CAMHS Powys ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm. Nid yw ar gael ar Wyliau Banc, Penwythnosau na thu allan i oriau swyddfa.
Os ydych chi’n poeni am blentyn neu berson ifanc y tu allan i’r amseroedd hyn, mae cymorth, cyngor ac arweiniad ar gael gan:
Mewn argyfwng, er enghraifft os ydy unigolyn ifanc yn ceisio achosi niwed difrifol iddo’i hun, rhaid i’r plentyn neu’r person ifanc fynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys yr Ysbyty Cyffredinol Dosbarth agosaf. Mae’r rhain mewn siroedd cyfagos gan nad oes yna Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ym Mhowys. Ffoniwch 999 a gofyn am y gwasanaeth ambiwlans.