Mae’ch tîm Ymyrraeth Gynnar lleol yn wasanaeth cymunedol newydd sy’n gallu cwrdd â phobl mewn amrywiaeth eang o leoedd, naill ai gartref, mewn canolfan glinigol neu mewn man niwtral, er enghraifft mewn siop goffi neu fannau cyhoeddus eraill.
Ar hyn o bryd, mae tîm Ymyrraeth Gynnar Powys yn cefnogi pobl rhwng 18 a 25 oed sy’n profi symptomau cynnar seicosis neu sydd wedi profi symptomau seicotig heb eu trin o fewn y 2 flynedd ddiwethaf.
Gall Meddyg Teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol atgyfeirio drwy’r tîm iechyd meddwl cymunedol lleol lle bydd y gweithiwr Cyswllt Ymyrraeth Gynnar neu’r gweithiwr ar ddyletswydd yn brysbennu’r atgyfeiriad. Gall teulu a/ neu ffrindiau hefyd atgyfeirio drwy Ymarferydd Ymyrraeth Gynnar.
Gall y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis ddarparu hyd at 3 blynedd o gymorth sy’n gallu cynnwys:
• Addysg sy’n ymwneud â symptomau a strategaethau ymdopi.
• Gwaith i atal pwl arall o salwch.
• Cymorth i ddychwelyd i’r gwaith.
• Cymorth i ddychwelyd i addysg.
• Adferiad o Seicosis
• Ymyriadau gyda meddyginiaeth.
• Hyb Gwybodaeth.
• Ymyriadau teuluol ac addysg deuluol ynghylch arwyddion a symptomau seicosis
• Therapi Gwybyddol Ymddygiadol sy’n ymwneud â symptomau a strategaethau ymdopi.
• Grwpiau Cefnogaeth gan Gymheiriaid.
• Atgyfeirio i wasanaethau cymorth gwirfoddol/ elusennol.
Mae ein Timau EIP yn gweithio o nifer o wahanol safleoedd ar hyd a lled Powys.
Gellir cysylltu â Thîm De Powys ar:
07929 781 794
Gellir cysylltu â Thîm Gogledd Powys ar:
07876 714 117
Gellir ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a ganlyn i gysylltu â’r ddau dîm: EIPPowys@wales.nhs.uk