Every Life Matters
Mae Every Life Matters yn wefan yn y DU sydd â llawer o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys canllawiau ar hunan-niweidio i’ch helpu datblygu gwell ddealltwriaeth ar hunan-niwed a dod o hyd i ffyrdd i ddechrau rheoli ymddygiad hunan-niwed.
Yn y canllawiau mae:
Gwefan: https://www.every-life-matters.org.uk/self-harm/
E-bost: info@every-life-matters.org.uk
(Sylwer, dim ond yn Saesneg y mae'r adnodd hwn ar gael ar hyn o bryd. Os yw eich gosodiadau yn y Gymraeg, dylai eich porwr gynnig cyfieithu'r wefan hon i chi o'r Saesneg i'r Gymraeg)
Rhwydwaith Cenedlaethol Hunan-niwed
Mae’r Rhwydwaith Cenedlaethol Hunan-niwed yn cynnig fforwm cymorth ar-lein
Gwefan: www.nshn.co.uk
(Sylwer, dim ond yn Saesneg y mae'r adnodd hwn ar gael ar hyn o bryd. Os yw eich gosodiadau yn y Gymraeg, dylai eich porwr gynnig cyfieithu'r wefan hon i chi o'r Saesneg i'r Gymraeg)
Alumia - Self-harm DU
Cynnig cymorth hunan-niwed ar-lein am ddim i bobl ifanc rhwng 14-19 oed.
Ar eu gwefan mae gwybodaeth, cymorth ar-lein a mynediad i Alumina, sef cwrs 6 wythnos hunangymorth ar lein.
Gwefan: www.selfharm.co.uk
(Sylwer, dim ond yn Saesneg y mae'r adnodd hwn ar gael ar hyn o bryd. Os yw eich gosodiadau yn y Gymraeg, dylai eich porwr gynnig cyfieithu'r wefan hon i chi o'r Saesneg i'r Gymraeg)
Self-injury Support
Mae Self-Injury Support yn fudiad a sefydlwyd yn 1988 i drawsnewid gwasanaethau cymorth hunan-anaf ac iechyd meddwl mewn modd cadarnhaol. Maent yn darparu cefnogaeth i fenywod a merched, yn ogystal â hyfforddiant i bawb.
Llinell Gymorth Hunan-Anaf: 0808 800 8088
Ar gyfer menywod o bob oedran a chefndir a effeithiwyd gan hunan-anaf, boed hynny yn bersonol neu ffrind neu aelod o’u teulu. Ar agor dydd Mawrth a dydd Iau 7pm – 9:30pm.
Tecst: 07537 432444
Ar gyfer menywod o bob oedran a chefndir a effeithiwyd gan hunan-anaf, boed hynny yn bersonol neu ffrind neu aelod o’u teulu. Ar agor dydd Mawrth a dydd Iau 7pm – 9:30pm.
Cymorth Gwe-Sgwrs:
Ar gyfer menywod o bob oedran a chefndir a effeithiwyd gan hunan-anaf, boed hynny yn bersonol neu ffrind neu aelod o’u teulu. Ar agor dydd Mawrth a dydd Iau 7pm – 9:30pm.
Gwefan: www.selfinjurysupport.org.uk
(Sylwer, dim ond yn Saesneg y mae'r adnodd hwn ar gael ar hyn o bryd. Os yw eich gosodiadau yn y Gymraeg, dylai eich porwr gynnig cyfieithu'r wefan hon i chi o'r Saesneg i'r Gymraeg)
Anhwylderau Bwyta Beat
Beat yw prif elusen anhwylder bwyta'r DU. Sefydlwyd yn 1989 fel y Gymdeithas Anhwylderau Bwyta, gyda’r nod o roi’r gorau i’r poen a dioddef a achosir gan anhwylderau bwyta.
Mae gan wefan Beat llawer o wybodaeth, adnoddau y gellir eu lawrlwytho, cyngor a grwpiau cymorth ar lein
Gwefan: www.beateatingdisorders.org.uk/
I weld y wefan yn y Gymraeg, ewch i'r hafan a chliciwch ar ‘Accessibility Tools’ yna cliciwch ar y botwm newid iaith.
Llinell Gymorth: 0808 801 0433
Mae’r llinellau cymorth ar agor 365 diwrnod y flwyddyn rhwng 9am – canol nos yn ystod yr wythnos, a 4pm – canol nos ar benwythnosau a gwyliau’r banc.
Cymoth e-bost i Gymru: Waleshelp@beateatingdisorders.org.uk
Life Signs
Mae LifeSIGNS yn elusen a arweinir gan ddefnyddwyr sy'n creu dealltwriaeth am hunan-anaf. Wedi'i sefydlu yn 2002, eu nod parhaus yw tywys pobl hunan-niweidio tuag at ffyrdd newydd o ymdopi, pan fyddant yn barod ar gyfer y daith. I ddod o hyd i fwy ewch i’w gwefan, manylion isod.
Gwefan: www.lifesigns.org.uk
I weld y wefan yn y Gymraeg, ewch i'r hafan a sgroliwch i ddiwedd y tudalen a dewiswch ewch iaith o’r opsiynau.
Young Minds
Young Minds yw prif elusen y DU sy'n brwydro dros iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Ewch i'w gwefan i gael gafael ar adnoddau a gwybodaeth am hunan-niweidio ac amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl.
Gwefan: www.youngminds.org.uk/young-person/my-feelings/self-harm/
(Sylwer, dim ond yn Saesneg y mae'r adnodd hwn ar gael ar hyn o bryd. Os yw eich gosodiadau yn y Gymraeg, dylai eich porwr gynnig cyfieithu'r wefan hon i chi o'r Saesneg i'r Gymraeg)
PAPYRUS
Mae PAPYRUS yn elusen genedlaethol sy'n ymrwymiedig i atal hunanladdiad ifanc. Mae PAPYRUS yn cynnig gwasanaeth cymorth a chyngor cyfrinachol ar ffurf HOPELINEUK, ar gyfer plant a phobl ifanc dan 35 oed sy'n profi meddyliau hunanladdol, neu unrhyw un sy'n pryderu y gallai person ifanc fod yn meddwl am hunanladdiad.
Ffoniwch HOPELINEUK: 0800 068 4141
Tecst: 07860 039 967
E-bost: pat@papyrus-uk.org
Oriau Agor:
9am – 10pm diwrnodau’r wythnos
2pm – 10pm penwythnos
2pm – 10pm gwyliau’r banc
Gallwch ddod o hyd i adnoddau cymorth am hunan-niwed a hunan-anaf trwy ddilyn y ddolen isod:
Gwefan: https://www.papyrus-uk.org/help-advice-resources/?lang=cy
Harmless
Mae Harmless yn sefydliad angerddol sy'n gweithio i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â hunan-niweidio a'u goresgyn. Maent yn gosod pobl sydd â phrofiad byw wrth wraidd eu gwasanaeth ac yn gwneud eu gorau glas i amgylchynu'r bobl y maent yn eu helpu gyda thosturi a chymorth ymarferol a chefnogaeth i sicrhau newid mesuradwy ac ystyrlon. Maen nhw'n credu mewn gobaith ac adferiad.
Gwefan: https://harmless.org.uk
MIND
Gall hunan-niweidio effeithio arnoch mewn sawl ffordd wahanol.
Efallai eich bod wedi hunan-niweidio o'r blaen, yn meddwl am hunan-niwed, neu eisiau cefnogi rhywun arall sy'n hunan-niweidio. Efallai eich bod hefyd wedi clywed pobl yn siarad am hunan-niweidio ond ddim yn siŵr beth mae'n ei olygu.
Gall hunan-niweidio fod yn bwnc anodd i siarad am oherwydd gellir ei gysylltu ag emosiynau nad ydym yn gwybod sut i'w lleisio.
Gall MIND eich helpu deall hunan-niweidio, ac egluro pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael.
Gwefan: https://www.mind.org.uk/cy