Mae Cyngor Cleifion Powys (PPC) yn brosiect a ariennir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, a’i hwyluso gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), a’r Tîm Iechyd Meddwl. Ei nod ydy rhoi llais i bobl mewn unedau iechyd meddwl acíwt. Mae’r Cyngor Cleifion yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd, cyfrinachol, i gleifion yn unig, mewn lleoliad preifat ar y ward gyda gwirfoddolwyr sydd â phrofiad o fod yn yr ysbyty eu hunain.
Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl fynegi eu barn ar y gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn, codi cwestiynau a rhoi adborth mewn ffordd gyfrinachol. Yna rhoddir adborth yn ddienw i staff ac uwch reolwyr ysbytai fel y gellir dod o hyd i atebion i unrhyw broblemau.
Mae’r Cyngor Cleifion yn cyfarfod unwaith y mis, fel rheol ar 3ydd dydd Mercher y mis. Fel rheol, caiff dyddiadau eu rhoi ar wefan PAVO (www.pavo.org.uk) neu ar fwrdd bwletin y Ward yn Ysbyty Bronllys.