Neidio i'r prif gynnwy

Bwydo Babanod

Mam yn bwydo ei babi newydd-anedig o

Croeso i dudalen we Bwydo Babanod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae sut rydych chi'n bwydo eich babi yn un o'r penderfyniadau pwysicaf y byddwch chi'n eu gwneud fel rhiant newydd. Mae'r dudalen we hon wedi'u datblygu i roi'r holl wybodaeth y gallai fod ei hangen arnoch i wneud penderfyniad gwybodus am fwydo eich babi ac a allai eich cefnogi gyda'r penderfyniad hwnnw.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu sylwadau am y cymorth bwydo babanod sydd ar gael ym Mhowys neu sut i wella'r tudalennau hyn, e-bostiwch PTHBInfantFeeding@wales.nhs.uk

Mae'n fyth llwyr fod llaeth dynol/ y fron yr un fath â llaeth fformiwla. Mae yna LWYTH o fuddion iechyd i fabi sy'n derbyn llaeth o'r fron ac i fam sy'n bwydo babi ar y fron.

Isod ceir siart sy'n manylu ar gyfansoddion allweddol llaeth y fron o'i gymharu â llaeth artiffisial; addaswyd o Hyfforddiant Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF.

 

Fformiwla/Cynnwys Llaeth Artiffisial

Cynnwys Llaeth y Fron/Dynol

 

IL- 1

 

Ensymau

 

Oligosaccharides

 

Lactoferrin

 

Lymphocytes

 

Cytokines

 

Lipidau llaeth

 

Imiwnoglobwlinau

 

Leucocytes

 

Bôn-gellau

 

Ffactorau tyfiant

Dŵr Dŵr

Fitaminau a Mwynau (Synthetig)

Fitaminau a Mwynau (Synthetig)

Protein

Protein

Braster

Braster

Carbohydradau Carbohydradau

 

Y rheswm na ellir ychwanegu'r pethau’r ‘ychwanegol’ mewn llaeth o'r fron i fformiwla yw oherwydd eu bod yn gyfansoddion byw ac felly ni ellir eu hail-greu mewn labordy.

Er enghraifft- yr imiwnoglobwlinau yw sut y byddai eich corff yn adnabod unrhyw afiechydon/bacteria o fewn eich amgylchedd, byddai eich llaeth o'r fron yn cynhyrchu gwrthgyrff i'r microbau hyn ac yn trosglwyddo’r rhain i'ch babi. Mae hyn hefyd yn cynnwys imiwnedd i bethau rydych wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn y gorffennol – fel COVID-19.

 

Buddion iechyd o dderbyn llaeth o’r fron i’ch babi

  • Mae’n gosod microbïom eich babi am oes. Mae hyn yn golygu y gall droi derbynyddion iechyd ymlaen neu eu diffodd a allai atal eich plentyn rhag y salwch hwnnw yn y dyfodol.
  • Yn llai tebygol o ddatblygu alergeddau, gastroenteritis, otitis media, heintiau'r llwybr wrinol, gordewdra, diabetes, necrotising enterocolitis, lewcemia yn ystod plentyndod, clefyd y galon, pydredd yn y dannedd.
  • Yn lleihau nifer yr achosion o syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS)

 

Buddion iechyd i chi os ydych yn bwydo eich babi o’r fron

  • Llai o siawns o ganser y fron, canser yr ofari a chanser y groth
  • Llai o achosion o iselder ôl-enedigol
  • Yn gallu colli pwysau yn gyflymach ar ôl babi

​​​​​​​Er y gallwch weld yr holl fanteision iechyd anhygoel i chi'ch hun a'ch babi os byddwch yn dewis bwydo ar y fron, mae hefyd rhai buddion arbennig eraill, gan gynnwys:

  • Does dim cost i fwydo’ch babi o’r fron. Amcangyfrifir y bydd llaeth fformiwla yn unig yn costio rhwng £1000 a £1500 ym mlwyddyn gyntaf ei fywyd. Mae hyn heb gynnwys offer fel poteli / offer sterileiddio ac ati.
  • Cyfleustra – nid oes angen i chi baratoi/ sterileiddio na sicrhau bod gennych ddigon o fformiwla. Yr unig beth sydd angen arnoch yw chi eich hun a byddwch yn barod i fynd. Perffaith ar gyfer yng nghanol y nos pan fydd eich babi yn llwglyd.
  • Diogelwch - rydym yn hynod ffodus yn y DU i gael mynediad at ddŵr yfed glân, ond gall fod pethau sy'n effeithio ar ddiogelwch llaeth fformiwla. Er enghraifft; cyflenwadau dŵr preifat/ teithio dramor gyda'ch babi/fformiwla yn cael ei wneud yn anghywir/peidio â sterileiddio'n gywir ac ati. Gall y ffactorau i gyd beri risgiau sylweddol o fwydo â fformiwla. Mae angen i ni hefyd fod yn ymwybodol bod llaeth fformiwla yn fwyd wedi'i brosesu sy'n cael ei weithgynhyrchu mewn ffatri - felly gall fod risg o halogiad ar lefel cynhyrchu.
  • Effaith Amgylcheddol - Mae'r diwydiant fformiwla yn achosi llawer o faterion o fewn yr amgylchedd - o gynhyrchu mewn ffatrïoedd, pecynnu, dosbarthu, defnyddio tanwydd a chynhyrchion gwastraff o'r powdr/ hen boteli, a’r dŵr ychwanegol sydd angen i greu’r powdr llaeth yn y lle cyntaf. Mae yna hefyd y cynnydd yn y defnydd o ynni o degellau berwi ac offer sterileiddio na fyddai ei angen arnoch gyda bwydo ar y fron (mae hyn hefyd yn gostus).
  • Y GIG - o ganlyniad i’r manteision iechyd uchod, mae babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron 15% yn llai tebygol o fod angen ymweliad gan feddyg teulu yn ystod 6 mis cyntaf eu bywyd ac maent 5 gwaith yn llai tebygol o fod yn yr ysbyty gyda salwch sy'n gysylltiedig â gastro yn ystod 6 mis cyntaf eu bywyd. Mae rhywfaint o ymchwil hefyd yn awgrymu, pe gallem gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron o hyd yn oed canran bach iawn, y gallem arbed tua £40 miliwn y flwyddyn i'r GIG o fanteision iechyd cysylltiedig (UNICEF DU, 2012). Mae gennym hefyd gysylltiad cryf iawn rhwng bwydo fformiwla a gordewdra - ac ar hyn o bryd gordewdra yw un o'r prif achosion dros faterion iechyd eraill sy'n datblygu ac felly'n gostus iawn i'r GIG.

Mae gan ein gwefan wybodaeth ddefnyddio i’ch cefnogi chi gyda’ch dewisiadau bwydo. Mae'n bwysig trafod gyda'ch bydwraig drwy gydol y beichiogrwydd, am y gwahanol ddewisiadau ar sut i fwydo'ch babi a cheisio unrhyw wybodaeth/cymorth sydd ei angen arnoch cyn i'ch babi gyrraedd.

Ym Mhowys rydym yn cynnig dosbarthiadau cynenedigol lleol a gynhelir gan y tîm o fydwragedd sy'n gofalu amdanoch. Mae ein dosbarthiadau'n seiliedig ar y dull Solihull sy'n ymdrin â sut i ymateb i anghenion eich babi a'r opsiynau ar sut i fwydo eich babi. Gall hyn fod o fudd i chi a'ch partner, i roi gwybodaeth a sgiliau ymarferol i chi cyn i'ch babi gyrraedd, ac yn ffordd wych hefyd o gwrdd â mamau a thadau beichiog eraill yn yr ardal leol.

Mae gennym dudalen Facebook 'Powys Natures Nourishment' sydd â fideos, dolenni a chefnogaeth ar gael. 

Gallwch hefyd wylio'r fideos isod:

 

 

Mae'r ap Baby buddy yn caniatáu i chi greu eich cyfaill digidol eich hun a all eich cefnogi drwy gydol eich beichiogrwydd a bod yn rhiant cynnar hyd at 6 mis.

Paratoi ar gyfer yr enedigaeth

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch ddechrau paratoi eich hun cyn y geni ynglŷn â sut rydych yn dymuno bwydo'ch babi. Yn gyntaf, mae'n bwysig casglu'r holl wybodaeth (mae'r cyfan ar gael ar y dudalen hon a dolenni eraill a awgrymir), meddyliwch sut rydych chi a'ch partner yn teimlo am fwydo eich babi a hefyd pa gymorth sydd gennych o'ch cwmpas.

Pan gaiff eich babi ei eni gyntaf, rydym yn galw awr gyntaf ei fywyd – yr awr euraid. I fydwragedd mae hyn yn estyniad o’r enedigaeth ac mae'n gyfnod byr o drawsnewid ac ymgyfarwyddo i chi a'ch babi. Rydych chi wedi aros 9 mis am y foment hon ac mae'n amser arbennig y gallwn ei ddiogelu.

Mae'r awr syth ar ôl i chi eni babi yn cael effaith enfawr ar ficrobïom eich babi (y da yn berfedd eich babi). Bydd hyn yn cael effaith gydol oes ar ddatblygiad ymennydd ac iechyd cyffredinol eich babi a gall hefyd sbarduno eich hormonau mamol. Mae UNICEF a'r GIG yn argymell bod babanod yn  cael cysylltiad croen wrth groen di-dor ar ôl eu geni am o leiaf 1 awr. Mae hyn er mwyn iddyn nhw allu addasu i fywyd tu allan i’r groth- mae hyn yn golygu dysgu i anadlu, addasu eu systemau anadlol a systemau’r galon a rheoleiddio eu tymheredd. Y ffordd orau o dreulio'r awr arbennig hon o fywyd yw ym mreichiau'r fam/person sy'n geni, mae tystiolaeth yn dangos bod hyn yn lleihau lefelau hormon straen babanod sy’n golygu eu bod yn trosglwyddo i’r byd tu allan i’r groth yn fwy effeithlon.

Rydym yn gwybod bod angen i fabanod, yn ddelfrydol, fwydo a chael cysylltiad croen wrth groen o fewn yr awr gyntaf honno o fywyd gan ei fod yn cynyddu'r siawns y byddwch yn llwyddo i fwydo eich babi ar y fron. O fewn y bronnau mae derbynyddion prolactin sy'n caniatáu i'ch bronnau gynhyrchu llaeth - mae'r derbynyddion hyn yn cael eu troi ymlaen pan fydd eich babi'n bwydo'n rheolaidd, felly i alluogi eich bronnau i gynhyrchu digon o laeth i'ch babi mae angen i chi gyfathrebu rhwng y bronnau a'ch babi'n rheolaidd, fel y gallant gynhyrchu digon o laeth yn ôl anghenion y babi.

Yr awr euraid yw'r anrheg gyntaf y gallwch roi i'ch babi, ac mae’n arbennig iawn i chi hefyd. Gellir gwneud pob arsylwad/prawf arferol fel pwyso eich babi ar ôl iddo fwydo am y tro cyntaf neu yn syth ar ôl ei eni. Unwaith i fabanod cael eu geni, rhaid iddyn nhw fynd drwy gylch 9 cam er mwyn iddynt allu bwydo (gweler isod). Os caiff eich babi ei dorri ar draws ar unrhyw adeg cyn bwydo am y tro cyntaf, mae'n rhaid i'r babi ailgychwyn y cylch ac felly gallai achosi oedi cyn bwydo eich babi am y tro cyntaf.

Cam 1 - Y Floedd Eni - "Croeso i'r byd"- Dyma le mae'r babi'n chwyddo eu hysgyfaint am y tro cyntaf.

Cam 2- Ymlacio - "Mae hyn i gyd braidd yn llethol; Rwy'n ceisio trosglwyddo i wneud popeth yn annibynnol - rhowch eiliad i mi gymryd hyn i gyd i mewn" – Dyma le mae eich babi'n edrych yn gwbl hamddenol ac nad yw'n symud o gwmpas llawer.

Cam 3 - Dihuno - "Rydw i’n gallu clywed pethau cyfarwydd, mae hyn yn arogli ac yn swnio'n gyfarwydd i mi"- Dyma le bydd y babi'n dechrau agor ei lygaid ac yn dechrau symud yn araf.

Cam 4 - Gweithgarwch - "Nid yw hyn yn teimlo'n ofnus rydw i’n gallu dechrau archwilio, dydw i ddim mewn perygl" - Dyma le gallai'r babi ddechrau agor ei geg, neu efallai rhoi ei ddwylo yn ei geg. Mae hyn hefyd yn digwydd pan fydd eich babi yn cytrefu eu bacteria cyfarwydd gennych chi a'ch partner.

Cam 5 - Gorffwys - "Mae hyn braidd yn flinedig, rwy'n mynd i orffwys am ychydig. Rydw i wedi dysgu cymaint yn barod ac yn ei brosesu fel rydw i’n gallu symud ymlaen i'r cam nesaf yn fuan" – Dyma le bydd y babi'n ymddangos fel pe bai'n gorffwys am ychydig, yn mynd yn dawel neu'n rhoi'r gorau i symud o gwmpas cymaint. Gall y cyfnod o orffwys ddigwydd sawl gwaith drwy gydol y 9 cam.

Cam 6 - Cropian - "Dwi'n gallu arogli lle dwi'n mynd, ac rydw i eisiau helpu croth mam i gyfangu" Dyma le bydd y babi'n dechrau cropian, gan symud ei gorff tuag at y fron, gwreiddio, tynnu pengliniau i fyny i symud.

Cam 7 - Ymgyfarwyddo - "Dyma fy mam, onid yw hi'n anhygoel, rwy'n ei charu, rwy'n teimlo'n ddiogel. Rwy'n dysgu fy hun sut y dylai pethau deimlo yn fy ngheg, a fydd yn golygu na fydd angen help arnaf yn nes ymlaen" Dyma un o'r camau pwysicaf ac ni ddylid ei ruthro. Mae hyn fel arfer yn cymryd tua 20 munud lle bydd y babi'n gwreiddio wrth y deth, yn llifo'r deth, yn cydio yn y fron ac yn bachu ymlaen. Dyma sut mae eich babi'n dysgu ei hun sut i fwydo ar y fron heb gymorth.

Cam 8 - Sugno - "Fe wnes i'r cyfan ar fy mhen fy hun ac mae'n flasus iawn" – Dyma le bydd y babi'n cael ei gysylltu â'r fron ac yn bwydo.

Cam 9 - Cysgu - "Mae bywyd mor dda"- Dyma le mae'r babi yn gyfforddus ac yn teimlo'n ddiogel. Yn debygol gysgu yn safle croen wrth groen.

 

Ar ôl yr enedigaeth

Mae’r diwrnodau cyntaf o fod yn rhiant yn gallu bod yn anodd iawn wrth i chi a’ch babi adfer o’r enedigaeth a dechrau dod i adnabod eich gilydd. Bydd y rhan fwyaf o famau sydd wedi bwydo ar y fron yn dweud wrthych y gall dysgu sut i fwydo ar y fron gymryd amser, felly rhowch amser i chi'ch hun. Fel arfer, nid yw bwydo ar y fron yn sefydlu'n llwyr tan tua 6 wythnos, ond fel arfer yr wythnos gyntaf yw lle mae unrhyw anawsterau'n codi, tra bod y ddau ohonoch yn dechrau dod i'r afael â phopeth.

 

Colostrwm

Colostrwm yw'r "hylif euraid” y mae eich bronnau'n ei gynhyrchu o tua 16 wythnos o feichiogrwydd. Dyma'r llaeth cyntaf sydd ei angen ar fabi tan tua diwrnod 3 pan ddaw'r llaeth aeddfed i mewn. Mae colostrwm yn llawn gwrthgyrff a chalorïau anhygoel i amddiffyn a maethu eich babi. Dim ond ychydig o golostrwm, yn naturiol, y swm cywir ar gyfer eich babanod newydd a bydd hyn yn cynyddu'n raddol gyda'r dyddiau sy'n mynd heibio.

Mae colostrwm yn gweithredu fel carthydd i helpu'ch babi pasio ei garthion meconiwm gyntaf (sylwedd tar du trwchus), mae hyn yn lleihau'r risg y bydd eich babi'n datblygu clefyd melyn a hefyd yn cael y system dreulio i ddechrau gweithio.

Cofiwch hefyd fod gan eich babi storfa braster brown sy'n golygu os yw eich babi'n iach ac wedi cyrraedd tymor llawn, maen nhw hefyd yn cael storfeydd egni o hyn dros ddyddiau cyntaf ei fywyd. 

Isod mae canllaw gweledol, a ddatblygwyd gan Sharon Breward IFC ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, i gyd am bŵer rhyfeddol colostrwm.

Beth yw colostrwm? (gig.cymru)

 

 

Felly sut ydw i'n gwybod bod fy mabi'n llwglyd?

Bydd eich babi'n dangos ciwiau bwydo i chi pan fyddant yn llwglyd, arwydd olaf o fod yn llwglyd ydy crio. Os byddwch yn aros i'ch babi grio cyn ei fwydo, efallai na fydd yn bachu mor effeithiol, felly mae dod i adnabod eich babanod yn gynnar a’u ciwiau’n bwysig.

Wedi'i addasu gan yr Ymddiriedolaethau Geni Plant Cenedlaethol “1st 1000 days new parent support”

Cam

Arwydd weledol

Ciwiau Cynnar

“Rydw i’n llwglyd”

Gwneud symudiadau bach 

Agor ei geg 

Troi ei ben

 

Ciwiau Canol

“Rydw i’n llwglyd iawn”

Ymestyn 

Mwy o symudiad 

Llaw i’r geg

 

Ciwiau Hwyr

"Tawelwch fi, yna bwydwch fi"

Crio

Symudiadau cynhyrfus

Troi’n goch yn y wyneb

 

 

Awgrymiadau ar gyfer tawelu'r babi sy'n crio; rhoi cwtsh, croen wrth groen, siarad/canu, strocio.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y gwefannau canlynol:

Os ydych chi'n cael trafferth bwydo eich babi ar y fron, cofiwch efallai mai bwydo ar y fron yw'r ffordd naturiol o fwydo babi ond mae'n sgil y mae angen i'r ddau ohonoch ei dysgu. Fel y rhan fwyaf o bethau, ni allwch ddisgwyl ei gael yn iawn yn syth, ac mae'n bwysig cael llwythi o gefnogaeth. COFIWCH na fyddech chi'n mynd mewn car am y tro cyntaf a bod yn yrrwr perffaith, mae angen theori, ymarfer a chefnogaeth.

Ceisio cymorth: siaradwch â mamau eraill sy'n bwydo ar y fron a Chyfeillion Cefnogol yn y grwpiau bwydo ar y fron a thrwy Facebook. Neu cysylltwch â'ch Bydwraig/ Ymwelydd Iechyd am gyngor. Cofiwch fod sawl aelod o staff hyfforddedig ar draws Powys a fydd yn gallu eich cefnogi os byddwch yn dewis parhau i fwydo ar y fron.

Gallwch asesu eich techneg bwydo ar y fron eich hun gan ddefnyddio'r offeryn asesu hwn isod ac os byddwch yn ticio NA i unrhyw un o'r colofnau yna cysylltwch â'ch Bydwraig neu'ch Ymwelydd Iechyd er mwyn iddynt allu cwblhau asesiad Bwydo ar y Fron llawn gyda chi a rhoi rhywfaint o gymorth i chi: Rhestr wirio bwydo o'r fron i famau UNICEF UK

 

Os ydych chi'n ystyried gwneud y penderfyniad i roi'r gorau i fwydo ar y fron, dyma rai pethau defnyddiol i'w hystyried:

  • A ydych wedi cael pwysau i roi'r gorau iddi? (A yw'r wybodaeth a roddwyd i chi gan ffrindiau, teulu neu hyd yn oed weithiwr iechyd proffesiynol, yn gywir?)
  • Ydych chi wedi arbrofi gyda'ch bwydo ar y fron? (Ydych chi wedi rhoi cynnig ar osgo gwahanol neu hyd yn oed yn tynnu llaeth o’r fron gyda llaw a bwydo eich babi o gwpan/llwy?)
  • A yw bwydo cymysg yn opsiwn? (Er nad yw'n ddelfrydol yn y dyddiau cynnar, gall bwydo cymysg fod yn opsiwn yn ddiweddarach os ydych yn dymuno dychwelyd i'r gwaith neu os na allwch wneud cyflenwad llaeth llawn)
  • Gallwch gymryd eich amser. (Does dim rhaid i chi ruthro i roi'r gorau i fwydo ar y fron, mae diddyfnu eich babi yn araf yn aml yr opsiwn gorau i'r ddau ohonoch)
  • Mae'n iawn newid eich meddwl. (Os byddwch yn rhoi'r gorau i fwydo ar y fron ond yn penderfynu dechrau bwydo ar y fron eto, gall hyn hefyd fod yn bosibl)
  • Ydw i wedi gofyn am gymorth? Ydw i wedi siarad â'm Bydwraig, ymwelydd iechyd, nyrs feithrin, cyfaill cefnogol, teulu, ffrindiau?

Yn olaf, os ydych wedi gorfod rhoi'r gorau i fwydo ar y fron cofiwch fod unrhyw faint o fwydo ar y fron yn dda i chi a'ch babi.

Cofiwch fod manteision iechyd i chi a'ch babi os mai dim ond am ychydig ddyddiau y gallwch chi fwydo ar y fron neu os ydych chi eisiau bwydo ar y fron.

Os ydych chi'n teimlo'n isel neu'n ofidus, cofiwch fod rhianta da yn ymwneud â mwy na sut rydych chi'n dewis bwydo'ch babi. Yn ogystal, siaradwch â'ch Gweithiwr Iechyd Proffesiynol a fydd yn gallu eich cefnogi.

Dywedodd Belinda Phipps o'r Ymddiriedolaeth Geni Plant Genedlaethol: "Gan fod y manteision yn dechrau o'r tro cyntaf y mae babi yn bwydo, mae unrhyw faint o fwydo ar y fron yn rheswm i deimlo'n falch".

 

Gwybodaeth am faterion cyffredin

  • I gael rhagor o wybodaeth am feddyginiaethau y gallech fod yn eu cymryd a'r effaith ar fwydo ar y fron, efallai y bydd y ddolen hon yn ddefnyddiol i chi: Taflenni ffeithiau Cyffuriau mewn llaeth o'r fron
  • Os ydych chi'n meddwl bod gan eich babi dafodrwym, siaradwch â'ch Bydwraig neu'ch Ymwelydd Iechyd. Gallwch hefyd ddefnyddio'r offeryn TABBY i asesu difrifoldeb (os yw'n sgorio llai na 5, gallwn eich cyfeirio at wasanaeth arbenigol). Mae'r ddolen yma yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i chi am Dafodrwym: Gwybodaeth ar gwlwm tafod 
  • Os ydych yn dychwelyd i'r gwaith ac angen rhagor o wybodaeth am fwydo ar y fron a dychwelyd i'r gwaith, ewch i wefan Llywodraeth Cymru: Dychwelyd i'r gwaith (Llywodraeth Cymru.

Mae sut rydych chi'n penderfynu bwydo eich babi yn ddewis sy’n bersonol i chi. Fel bwrdd iechyd byddwn yn eich cefnogi, yn rhoi gwybod ac yn eich grymuso i fwydo eich babi ym mhob ffordd. Os penderfynwch mai bwydo fformiwla yw sut yr hoffech fwydo eich babi, edrychwch drwy'r wybodaeth a'r dolenni isod i sicrhau eich bod yn ei wneud mor ddiogel â phosibl.

Llaeth wedi'i weithgynhyrchu yw llaeth fformiwla sydd wedi'i gynllunio ar gyfer bwydo babanod dan 12 mis oed. Mae llaeth fformiwla fel arfer yn cael ei wneud o laeth buwch a gellir ei brynu naill ai fel hylif parod neu bowdr rydych chi'n ychwanegu dŵr ato. Bydd fformiwla yn rhoi'r maetholion sydd eu hangen ar eich babi i dyfu a datblygu, ond mae llawer o gyfansoddion i'w cael mewn llaeth o'r fron na ellir eu hailadrodd mewn llaeth fformiwla, a dyna pam mae llawer mwy o fanteision iechyd i'ch babi os ydynt yn cael llaeth o'r fron.

 

Mae'r daflen isod wedi'i datblygu gan Start for life, y GIG ac UNICEF i gasglu'r holl wybodaeth y mae angen i chi wybod am laeth fformiwla a pharatoi/sterileiddio. Cliciwch y ddolen yma i ddarllen mwy: Canllaw i Fwydo o’r Botel (unicef.org.uk)

 

Mae gan Camau Cyntaf at Faeth ac UNICEF, boster gwych sy'n mynd trwy egwyddorion bwydo potel diogel ac ymatebol: Llaeth fformiwla a bwydo poteli ymatebol (unicef.org.uk)

 

Mae’r pwyntiau allweddol y poster ar fwydo ymatebol o’r botel yn cynnwys:

1. Cadw babi’n agos, hyrwyddo cyfleoedd croen wrth groen gyda mam a dad i annog bondio.

2. Bwydo babi pan fyddant yn dangos ciwiau bwydo cynnar.

3. Dal babi yn agos mewn osgo lled-unionsyth, gan dawelu meddwl babi gyda chyswllt llygad.

4. Gwahodd babi i agor ei geg yn ysgafn trwy frwsio'r deth yn erbyn ei wefus uchaf. Cadw'r botel yn llorweddol i gyflymu'r llif llaeth.

5. Gwyliwch fabi am giwiau y gallai fod angen seibiant arnynt, neu i ddod â'r bwydo i ben; llaeth yn diferu o'r geg, troi pen i ffwrdd, symud bysedd/bysedd ei draed.

6. Peidiwch â cheisio gorfodi babi i orffen y bwyd, mae babi da yn gwybod faint o laeth sydd ei angen arno.

 

Mae camau cyntaf maeth, hefyd yn rhannu gwybodaeth am ba fformiwla babanod i'w dewis. Mae'n hyrwyddo bod llaeth cyntaf yn addas ar gyfer y flwyddyn gyntaf ac nid oes angen fformiwlâu ychwanegol/dilynol.

 

 

Bwydo Cyfunol

Mae'n bwysig cofio nad oes rhaid i chi ddewis un dull o fwydo'ch babi yn unig – mae dulliau cymysg o fwydo neu dynnu llaeth o’r fron gyda llaw yn cynnig llawer o fanteision iechyd i chi a’ch babi. Felly, os ydych chi am fwydo fformiwla ar gyfer rhan helaeth o'ch taith magu plant cynnar, mae ffyrdd y gallwch chi ymgorffori llaeth y fron ochr yn ochr. Dyma rai pethau efallai yr hoffech ystyried:

  • Tynnu colostrwm cynenedigol gyda llaw - dyma'r llaeth a fydd yn eich bronnau o tua 16 wythnos o gyfnod beichiogrwydd. Gallwch ddechrau casglu/ tynnu llaeth gyda llawn o 37 wythnos yn ystod cyfnod beichiogrwydd a'i storio mewn cynhwysydd di-haint yn eich rhewgell. Byddai hyn yn golygu y gallai eich babi gael colostrwm fel ei fwyd cyntaf (sy’n cael ei  argymell gan UNICEF/WHO) (Sefydliad Iechyd y Byd)).
  •  
  • Cynigiwch rywfaint o laeth o’r fron i’r babi yn ystod ychydig ddyddiau cyntaf ei fywyd a gweld sut rydych chi'n teimlo, tra o bosibl yn bwydo gyda photeli fformiwla hefyd. (Sylwer: gallai hyn effeithio'n negyddol ar y cyflenwad llaeth ar y fron), ond os dyna'r gwahaniaeth rhwng bod gan eich babi rywfaint o laeth y fron neu ddim - yna mae hwn yn opsiwn gwych ar gyfer rhoi rhai o'r buddion iechyd anhygoel hynny i'ch babi a'ch hun yn ystod dyddiau cyntaf bywyd - sy'n para am oes.
  •  
  • Does dim rhaid i fabanod bwydo o’r fron yn uniongyrchol yn unig. Mae yna bympiau trydan, pympiau llaw a phympiau sugno o'r fron a all eich helpu i dynnu eich llaeth o'r fron i'w roi i'ch babi.

 

Os hoffech wybod mwy am opsiynau eraill, cysylltwch â'ch bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd.

Gwasanaeth Bydwreigiaeth Powys- 01874 622443- Mae bydwragedd ar alwad 24/7 (hyd nes y bydd y babi'n 28 diwrnod oed neu'n cael eich rhyddhau o ofal bydwreigiaeth) ar gyfer unrhyw ymholiadau a chymorth bwydo babanod.

Ymwelwyr Iechyd Powys - Bydd eich ymwelydd iechyd yn rhannu manylion cyswllt lleol ar ôl eich ymweliad cyntaf. Siaradwch â'ch bydwraig gymunedol os nad ydych wedi clywed gan eich ymwelydd iechyd cyn cael eich rhyddhau o ofal bydwreigiaeth.

Dyma rai cysylltiadau defnyddiol:

Ystradgynlais 01639 846485

Aberhonddu 01874 622186

Llandrindod 01597 828746

Tref-y-clawdd 01547 521226

Machynlleth 01654 705236

Llanidloes 01686 414232

Y Drenewydd 01686 617480

Y Trallwng 01938 555137

Llanfyllin 01938 558972

Powys Natures Nourishment - Dyma ein tudalen Facebook a gymeradwywyd gan y bwrdd iechyd lle gallwch gael gafael ar wybodaeth drwy wahanol gyfryngau ar-lein, gan gynnwys dolenni at wefannau ag enw da a gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol drwy gydol eich taith bwydo babanod. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn cynnig gwasanaeth cyngor negeseua gwib gyda'n cydlynydd bwydo babanod ar gyfer unrhyw faterion cyffredinol sy'n ymwneud â bwydo babanod.

Llinell Gymorth Genedlaethol Bwydo ar y Fron - 0300 100 0212 Cyfaill Cefnogol ar gael 9:30- 21:30, sydd bellach yn cynnig cymorth gyda'r nos dan gynllun peilot rhwng 21.30-09.30

Cymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron - 0300 330 5453

Mae'r ABM yn elusen bwydo ar y fron sydd wedi ymrwymo i gefnogi mamau a theuluoedd sy'n bwydo ar y fron.

La Leche League- 0345 120 2918

Mae Cynghrair La Leche yn darparu cymorth bwydo o'r fron mam-i-fam, rhiant-i-riant ar draws Prydain Fawr ac Ynys Manaw.

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant - 0300 330 0700

Mae llinell gymorth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol wrth fwydo eich babi ac ymholiadau cyffredinol i rieni, aelodau a gwirfoddolwyr.

Llinell gymorth Rhwydwaith Bwydo ar y Fron -  0300 100 0212

Mae'r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron yn darparu gwasanaeth cymorth bwydo ar y fron 24/7, sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr.

Mae cymorth hefyd ar gael yn Gymraeg a Phwyleg drwy'r Llinell Gymorth Genedlaethol Bwydo ar y Fron (9:30yb – 9:30yh) – ffoniwch 0300 100 0212 a phwyso 1 am Gymraeg a 2 am Bwyleg. I gael mynediad at y gwasanaeth yn Bengaleg a Sylheti- 0300 456 2421

Mae cymorth ar gael trwy gydol eich taith bwydo ar y fron. Ni waeth a ydych eisiau cysylltu gyda rhieni eraill neu geisio cymorth ymarferol neu emosiynol gan gymheiriaid, mae llwyth o grwpiau ar draws Powys i’ch helpu chi.

Ein nod yw ceisio diweddaru'r rhestr hon, fodd bynnag, edrychwch ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol pob grŵp i gael unrhyw ddiweddariadau ar ddyddiadau, amseroedd neu leoliad.

Dyma’r grwpiau sydd ar gael ym Mhowys:

 

Gogledd Powys

Machynlleth yn Ystafell Vane Tempest, Y Plas ar foreau Gwener (bob pythefnos) 10.30 - 12.00. Cysylltwch drwy Facebook.

Llanidloes yn Y Marquee yn y Crown and Anchor ar foreau Iau 09.30-12.30. Cysylltwch drwy Facebook.

Y Trallwng yn Costa’r Trallwng. Bob bore dydd Gwener 10.15 - 11.30. Cysylltwch drwy Facebook.

Y Drenewydd yn y Portacabin yng Nghanolfan Integredig i Deuluoedd Y Drenewydd pob prynhawn Mercher 13.15-14.15. Cysylltwch drwy Facebook.

De Powys

Ystradgynlais – cynnig cymorth 1 i 1 ar-lein. Cysylltwch drwy Gynghrair La Leche o Gwm Tawe | Facebook .

Aberhonddu yn Y Muse, Stryd Glamorgan ar foreau Iau 10-12. Cysylltwch drwy (Brecon BIBS | Facebook

Llandrindod yn Ystafell Amlbwrpas Ysgol Trefonnen, 10yb-12 bob dydd Iau (yn ystod y tymor). Cysylltwch drwy Facebook.

Tref-y-clawdd a Llanandras – cynnig cymorth 1 i 1 ar-lein. Cysylltwch â Grŵp Bwydo ar y Fron Tref-y-clawdd a Llanandras | Facebook.

Gofynnwch i’ch bydwraig neu ymwelydd iechyd am ragor o wybodaeth am grwpiau bwydo ar y fron lleol eraill. 

 

Oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gyfaill Cefnogol ym Mhowys?

Cysylltwch â'ch grŵp BIBS lleol neu e-bostiwch laura.c.bache@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth.

Os hoffech rannu eich stori, gallwch gysylltu â ni dros e-bost yn:  PTHBInfantFeeding@wales.nhs.uk

Delwedd baner gyda mam yn breasfwydo eu babi
Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Powys
Rhannu:
Cyswllt: