Neidio i'r prif gynnwy

Adborth gan Ddefnyddwyr

Llun o fenyw yn gwneud bawd i fyny a bawd i lawr arwydd dwylo

Mae adborth yn bwysig iawn i ni. Rydym yn mawr obeithio eich bod yn hapus gyda’ch gofal. Rydym hefyd wedi ymrwymo i wella gofal i'r teuluoedd rydym yn gofalu amdanyn.

Mae sawl ffordd y gallwch leisio’ch barn i ni ar eich gofal. Mae’r rhain yn cynnwys cwblhau holiaduron byr ar-lein, rhannu eich stori genedigaeth, rhoi adborth trwy fforwm defnyddwyr y gwasanaeth a thrwy godi pryder neu gŵyn. Gallwn hefyd eich cefnogi i rannu eich adborth ar y gofal cawsoch o fewn gwasanaeth obstetreg tu allan i Bowys.

Gallwch hefyd e-bostio eich adborth am eich gofal atom a bydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad i drafod hyn ymhellach. E-bostiwch Powys.Maternity@wales.nhs.uk. Sylwer, nad yw cyfeiriad e-bost hwn yn cael ei fonitro'n barhaus ac nad yw ar gyfer ceisio cyngor clinigol. Os hoffech siarad gyda bydwraig, cysylltwch â 01874 622443 a gofynnwch i siarad â’r tîm bydwreigiaeth sy’n gofalu amdanoch.

Rhannu:
Cyswllt: