Os ydych yn ymweld â'r dudalen hon oherwydd rydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi profi marwolaeth babi, naill ai yn ystod beichiogrwydd neu'n fuan ar ôl genedigaeth, i gychwyn hoffem ddweud pa mor flin rydym am eich colled. Gall colli babi ar unrhyw gyfnod yn ystod beichiogrwydd achosi llawer o emosiynau a theimladau o alar. Does dim ffordd gywir i brosesu galar, ond bwriad y dudalen hon yw tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i chi yn lleol ac yn y gymuned ehangach.
Fel arfer bydd menywod yn cael cynnig cefnogaeth gan Fydwraig Galar Arbenigol o’r Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ac rydym yn cynnig unrhyw gefnogaeth ychwanegol sydd angen ar fenywod a theuluoedd. Ym Mhowys, rydym yn gweithio’n agos gyda Bydwragedd Galar ledled Cymru ac yn anelu at wella’r gefnogaeth a gwasanaethau sy’n cael eu cynnig i deuluoedd sy’n profi galar ym Mhowys.
Ym Mhowys, rydym yn cynnig Fforwm Galar sy’n darparu cefnogaeth ac arweiniad i fenywod a’u teuluoedd sydd wedi profi colled baban. Gallwn gefnogi'r gwaith cynllunio pan fydd teuluoedd yn dymuno dod â'u babanod adref i dreulio peth amser gyda'i gilydd neu gallwn helpu i drefnu cyfnod yn un o'r cyfleusterau hosbis leol. Mae gennym fynediad at “grud cwtsh” sy’n rhoi amser ychwanegol i chi fel teulu i dreulio gyda’ch babi ac rydym yma i gynnig cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer anghenion penodol eich teulu chi.
Os ydych wedi darganfod yn anffodus nad oes disgwyl i'ch babi oroesi, gallwn helpu i drefnu i chi gael mynediad at ofal hosbis a gallwn gynnig cyngor a chymorth wrth gynllunio ar gyfer y cyfnod ar ôl genedigaeth