Yma ym Mhowys, rydym wedi ymrwymo i gefnogi amgylchedd lle mae ymchwil ac arloesi yn cael ei annog yn weithredol.
Rydym yn gwybod bod ymchwil a datblygiad yn rhan hanfodol o ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Ein rôl yw:
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal ymchwil ym Mhowys, cysylltwch â ni ar Bright.IdeasPowys@wales.nhs.uk
Os ydych chi'n glaf gyda ni, efallai y bydd ymgynghorydd, nyrs neu'ch meddyg teulu yn gofyn i chi weld a hoffech chi gymryd rhan mewn astudiaeth neu efallai y byddwch chi'n derbyn gwahoddiad yn y post. Gall rhai astudiaethau ymchwil gynnwys arolygon a chyfweliadau, gall eraill edrych ar effeithiau cyffuriau a thriniaeth.
Credwn y gall cleifion sy'n cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil elwa o'r holl gefnogaeth, gwerth a phwrpas a ddaw yn sgil hyn yn ogystal ag unrhyw ganlyniadau triniaeth newydd posibl.
I gael mwy o wybodaeth am wneud ymchwil ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, neu os ydych chi'n glaf ac yr hoffech wybod mwy am gofrestru i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil, cysylltwch â'r Adran Ymchwil a Datblygu ar Bright.IdeasPowys@wales.nhs.uk