Mae ymchwil yn allweddol i ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o atal, rhoi diagnosis a thrin clefydau a chyflyrau iechyd eraill – gan helpu i arbed amser ac arian i'r GIG yn ogystal â helpu pobl yng Nghymru i fyw bywydau hirach mewn iechyd da. Gyda chyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a phartneriaid eraill, mae'r adran Ymchwil a Datblygu yn cefnogi ymchwil o ansawdd uchel o fewn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Bod yn rhan o ymchwil
Heb ymchwil, ni fyddai llawer o'r triniaethau a'r mathau o ofal rydyn ni'n eu derbyn gan y GIG heddiw ar gael.
Mae gan aelodau o'r cyhoedd rôl hanfodol i'w chwarae - heb i bobl gytuno i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil ni fyddai'r triniaethau a'r gofal gwell hyn yn bodoli.
Mae yna lawer o ffyrdd y gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, fel rhan o'r astudiaeth ymchwil - er enghraifft derbyn triniaeth newydd, ateb holiaduron, rhoi caniatâd i ymchwilwyr edrych ar nodiadau meddygol, helpu i benderfynu ar yr ymchwil bwysicaf neu helpu i ddylunio'r ffordd y mae'r ymchwil yn cael ei gynnal.
Am fwy o wybodaeth:
Mae ymchwil yn rhan arferol o driniaeth a gofal yn GIG Cymru, ewch i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gael gwybod am astudiaethau ymchwil sydd ar agor ledled y DU, yn ogystal â'r effaith y mae ymchwil wedi'i chael ledled Cymru.
Cyflwyno a datblygu ymchwil
Mae gan bawb rôl bwysig i'w chwarae wrth gefnogi ymchwil.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu cymorth ac arweiniad rhwydd, hawdd ei ddefnyddio ar bob agwedd ar y broses ymchwil, gan ddarparu dogfennau canllawiau, hyfforddiant, cyllid, enghreifftiau arfer gorau a thempledi.
Am fwy o wybodaeth ewch i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.