Neidio i'r prif gynnwy

Lles yn y Gwaith

Mae’r bobl sy'n byw ac yn gweithio ym Mhowys yn dathlu harddwch y sir drwy fanteisio ar yr ystod o weithgareddau awyr agored i gymryd hoe ar ôl y gwaith. Mae rhywbeth yma sydd at ddant bawb, o feicio dros Fynyddoedd Cambria a’r Bannau Brycheiniog, i fynd am dro hamddenol drwy'r miloedd o filltiroedd o lwybrau troed sydd ar gael.

Fel deiliad gwobr 'Safon Iechyd Corfforaethol Aur' ar gyfer lles yn y gwaith, rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gefnogi staff wrth fanteisio ar y gweithgareddau hygyrch hyn trwy ystod eang o wasanaethau a mentrau. Mae’r rhain yn cynnwys:

 

  • Grŵp Lles Strategol yn y Gwaith sy'n ceisio sicrhau bod y ddarpariaeth lles cywir ar waith.
  • Tîm ymgysylltu â staff Siarad i Newid.
  • Tîm Iechyd Galwedigaethol ymroddedig sy’n cefnogi staff ac yn hwyluso hyfforddiant a chwnsela.
  • Hybiau Lles ym mhob ysbyty, lle gall staff gael gafael ar wybodaeth allweddol a mwynhau diod a lluniaeth.
  • Ystod eang o gyfleodd hyfforddi a datblygu i alluogi dysgu parhaus a datblygu eu gyrfa.
  • Mynediad at borth lles meddyliol ac ymddygiadol SilverCloud.
  • Egwyl lles 15 munud yn ogystal ag egwyliau rheolaidd.
  • Calendrau Mis o Hapusrwydd sydd llawn gweithgareddau i’w mwynhau gyda chydweithwyr.
  • Gwasanaethau deietegol sy'n cynnig cyngor i staff ar ddeiet a maeth.
  • Brechiadau ffliw blynyddol.

 

Rhannu:
Cyswllt: